Yr afon fwyaf yng Ngogledd Iwerddon yw Afon Bann (Gwyddeleg: An Bhanna,[1] "y dduwies"). Mae'n rhannu'n ddwy ran wahanol, sef y Bann Uchaf a'r Bann Isaf. Mae'r Bann Uchaf yn codi ym Mynyddoedd Mourne ac yn llifo i'r gogledd-orllewin i Lough Neagh (y llyn mwyaf ar ynys Iwerddon). Mae'r Bann Isaf yn llifo o Lough Neagh tua'r gogledd trwy Lough Beg ac yn cyrraedd y môr ychydig i'r gogledd o dref Coleraine. Mae gan yr afon ei hun hyd o 80 milltir (129 km); at yr hyd hwn gellir ychwanegu hyd 19 milltir (30 km) Lough Neagh.

Afon Bann
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Cyfesurynnau55.0022°N 6.5792°W, 54.1705°N 6.03522°W, 55.169°N 6.77169°W Edit this on Wikidata
AberSianel y Gogledd Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Blackwater Edit this on Wikidata
Hyd137 cilometr Edit this on Wikidata
LlynnoeddLough Neagh Edit this on Wikidata
Map

Mae'r Bann Uchaf yn un o'r afonydd pysgota bras mwyaf poblogaidd yn Ewrop. Y brif dref ar y rhan hon yw Portadown.

Mae'r Bann Isaf yn llifo trwy dir isel mawnog yn ardaloedd trefi Magherafelt, Ballymena, Ballymoney, a Coleraine.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022