Afon Cleddau Ddu

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Afon Cleddau Gorllewinol)

Tardda Afon Cleddau Ddu (ffurf amgen: Cleddy Ddu) ar lethrau Mynydd Preselau ym Mlaencleddau ym mhlwyf Mynachlog-ddu, a llifa tua'r de-orllewin heibio Llawhaden. Mae'n rhan o Afon Cleddau. Gwelir effaith o llanw ger Pont Canaston. Ymuna a'r afon Cleddau Wen ym Mhwynt Picton.

Afon Cleddau Ddu
MathSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.841634°N 5.065214°W Edit this on Wikidata
Map

Mae aber Daugleddau yn ddwfn ac yn harbwr naturiol da; gall tanceri olew o 300,000 tunnell a mwy ei ddefnyddio. Oherwydd hyn, adeiladwyd nifer o burfeydd olew yma.

Cadwraeth golygu

Mae Afon Cleddau Ddu wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SSSI) ers 24 Mawrth 2003 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle. Mae ei arwynebedd yn 372.38 hectar. Gyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Dynodwyd y safle oherwydd agweddau biolegol er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd biolegol fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu