Afon Croco
Llifa Afon Croco (Saesneg: River Croco) trwy ran o Swydd Gaer yn Lloegr. Afon fechan ydyw, sy'n tarddu mewn caeau i'r gorllewin o dref Congleton, yn llifo heibio i'r de o Holmes Chapel, ac yn aberu yn Afon Dane yn Middlewich. Ei hyd yw 13 km (8 milltir).
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaer ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1567°N 2.2739°W ![]() |
Aber | Afon Dane ![]() |
![]() | |