Afon Don (Swydd Efrog)

Afon yn siroedd De Swydd Efrog a Dwyrain Swydd Efrog yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, yw Afon Don. Mae'n tua 70 milltir (110 km) o hyd.

Afon Don
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDe Swydd Efrog Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.519°N 1.762°W, 53.6965°N 0.8663°W Edit this on Wikidata
AberAfon Trent Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Sheaf, Afon Dearne, Afon Little Don, Afon Loxley, Afon Rother Edit this on Wikidata
Hyd112 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Am afonydd eraill o'r un enw, gweler Afon Don.

Mae'n tarddu yn y Pennines ac yn llifo i gyfeiriad y dwyrain, trwy trefi Penistone, Stocksbridge, Sheffield, Rotherham, Swinton, Mexborough, Conisbrough, Doncaster, Stainforth, a Thorne, nes iddi ymuno ag Afon Ouse yn Goole. Afonydd Loxley, Rivelin, Sheaf, Rother a Dearne yw prif lednentydd Afon Don.

Yn wreiddiol ymunodd ag Afon Trent, ond fe'i ailgyfeiriwd gan y peiriannydd Cornelius Vermuyden yn y 1620au. Parhaodd y gwaith o gamlesu’r afon mewn canrifoedd diweddarach, a bellach gall traffig symud mor bell i fyny’r afon â Sheffield.

Cwrs Afon Don