Afon Dulais (Castell-nedd Port Talbot)
afon yng Nghastell-nedd Port Talbot
Afon ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot yn ne Cymru, sy'n llifo i mewn i Afon Nedd, yw Afon Dulais.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6802°N 3.778°W |
Aber | Afon Nedd |
Mae'n tarddu ar lechweddau deheuol Mynydd y Drum, i'r gorllewin o Onllwyn, lle mae nifer o nentydd yn cyfarfod. Mae'n llifo tua'r de-orllewin heibio Blaendulais, Tre-Forgan, Y Creunant, Cil-ffriw ac Aberdulais, lle mae'n ymuno ag Afon Nedd.
Fel mae'r Dulais yn agosáu at y Nedd, mae'n disgyn i raeadr ysblenydd Rhaeadrau Aberdulais, atyniad twristiaeth poblogaidd a safle hen weithfeydd haearn.