Afon sy'n llifo i mewn i Afon Tywi yn Sir Gaerfyrddin, yn ne-orllewin Cymru, yw Afon Dulais. Mae hi'n tarddu ar y llethrau ger Cefn y Bryn, i'r gogledd-ddwyrain o bentref Caeo, yna'n llifo tua'r de heibio i Gwm-dwr a Llanwrda cyn llifo i mewn i Afon Tywi ychydig i'r de o Lanwrda.