Afon Mayenne
Afon yng ngorllewin canolbarth Ffrainc yw afon Mayenne, yn llifo yn bennaf trwy région Pays de la Loire. Mae'n tarddu islaw copa Mont des Avaloirs tua 15 km i'r gorllewin o Alençon yn département Orne. Yn ôl rhai awduron, mae'n ymuno ag afon Sarthe i ffurfio afon Maine i'r gogledd o Angers yn Maine-et-Loire. Yn ôl awduron eraill, mae "afon Maine" yn enw lleol ar afon Mayenna yn y rhan yma o'i chwrs, cyn iddi lifo i mewn i afon Loire.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 48.4564°N 0.1317°W, 47.4933°N 0.5422°W |
Tarddiad | Mont des Avaloirs |
Aber | Afon Maine |
Llednentydd | Aisne, Afon Ouette, Colmont, Ernée, Oudon, Jouanne, Varenne, Vicoin, Vée, Aron, Gourbe, Baconne |
Dalgylch | 5,820 cilometr sgwâr |
Hyd | 202.3 cilometr |
Arllwysiad | 50 metr ciwbic yr eiliad |