Afon Neisse
Afon yng nghanolbarth Ewrop yw afon Neisse (Almaeneg yn llawn: Lausitzer Neiße, Pwyleg: Nysa (Łuźycka), Tsieceg: (Lužická) Nisa). Mae'n tarddu ym mynyddoedd Iser yn y Sudetenland yng Ngweriniaeth Tsiec, ac yn llifo tua'r gogledd. Yn nes ymlaen yn ei chwrs mae'n ffurfio rhan o Linell Oder-Neisse, sy'n dynodi'r ffîn rhwng Gwlad Pwyl a'r Almaen ers 1945. Wedi llifo am 252 km, mae'n llifo i mewn i afon Oder gerllaw Ratzdorf.
Math | afon, natural border ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Liberec Region, Görlitz, Sir Zgorzelec, Sir Żary, Ardal Spree-Neiße, Sir Krosno Odrzańskie, Ardal Oder-Spree, Sir Słubice ![]() |
Gwlad | Gwlad Pwyl, y Weriniaeth Tsiec, yr Almaen ![]() |
Cyfesurynnau | 50.7256°N 15.2264°E, 52.0694°N 14.7556°E ![]() |
Tarddiad | Jizera Mountains ![]() |
Aber | Afon Oder ![]() |
Llednentydd | Mandau, Wittgendorfer Wasser, Kemmlitzbach, Malxe, Pließnitz, Bílá Nisa, Harcovský potok, Černá Nisa, Jeřice, Q11986036, Ullersdorfer Bach, Oleška, Afon Smědá, Q1595261, Lubsza, Q27886830, Q27886829, Q27886779, Q43864080, Q101424713 ![]() |
Dalgylch | 4,297 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 254 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 30 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
![]() | |
Fe'i gelwir y Lausitzer Neiße yn Almaeneg i'w gwahaniaethu oddi wrth y Glatzer Neiße, afon arall sy'n llifo i mewn i afon Oder, Nysa Kłodzka mewn Pwyleg. Y prif ddinasoedd ar yr afon yw Liberec (Gweriniaeth Tsiec) a Görlitz (yr Almaen).