Afon Pasquotank
Afon yn nhalaith Gogledd Carolina, Unol Daleithiau America, yw Afon Pasquotank. Mae'n llifo rhwng Swydd Camden a Swydd Pasquotank (a enwir ar ôl yr afon), gan lifo'n uniongyrchol i'r Albemarle Sound, ac mae'n rhan o system yr Intracoastal Waterway. Y brif ddinas ar ei glan yw Elizabeth City.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pasquotank County, Camden County |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 36.1572°N 76.0308°W |
Aber | Albemarle Sound |
Geirdarddiad
golyguMae'r enw "Pasquotank" yn deillio o pashetanki, gair yn yr iaith Algonceg sy'n golygu "lle mae'r llif yn ymrannu."[1]