Afon Ribble
Afon yn siroedd Gogledd Swydd Efrog a Swydd Gaerhirfryn yng ngogledd Lloegr, yw Afon Ribble. Mae'n tua 75 milltir (121 km) o hyd.
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Efrog ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.75°N 2.77°W, 54.1828°N 2.3219°W, 53.7289°N 2.9753°W ![]() |
Aber | Môr Iwerddon ![]() |
Llednentydd | Afon Douglas, Afon Calder, Afon Hodder, Afon Darwen ![]() |
Hyd | 121 cilometr ![]() |
![]() | |
- Peidiwch â chymysgu yr afon hon ag Afon Ribble (Gogledd Swydd Efrog), sy'n nant lawer llai.
Mae'n tarddu yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog (Yorkshire Dales) ac yn llifo i'r de i ddechrau, ac wedyn i'r gorllewin. Dyma'r unig afon o bwys sy'n codi yn Swydd Efrog ac yn llifo i'r gorllewin. Mae'n rhedeg trwy trefi Settle, Clitheroe, Ribchester a Preston cyn iddi gyrraedd Môr Iwerddon rhwng Lytham St Annes a Southport, lle mae'n ffurfio aber eang. Afonydd Hodder a Calder yw ei phrif lednentydd.