Afon Tocantins
Afon ym Mrasil yw Afon Tocantins neu Rio Tocantins. Gyda hyd o 2,640 km, hi yw'r afon ail-hwyaf sy'n gydangwbl o fewn Brasil, ar ôl afon São Francisco. Gellir ei mordwyo am tua 1,000 km hyd Lajeado.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pará |
Gwlad | Brasil |
Cyfesurynnau | 1.7287°S 49.1762°W |
Aber | Marajó Bay |
Llednentydd | Afon Araguaia, Afon Paranã, Afon Maranhão, Afon Do Sono, Afon Itacaiunas, Afon Santa Tereza, Afon Manuel Alves Grande |
Dalgylch | 770,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 2,450 cilometr |
Arllwysiad | 11,364 metr ciwbic yr eiliad |
Ceir tarddle'r Tocantins yn ne talaith Goiás, tua 100 km i'r gorllewin o'r brifddinas, Brasília. Mae'n llifo tua'r gogledd i gyrraedd cefnfor Iwerydd, ac yn llifo trwy daleithiau Tocantins, Maranhão a Pará. Weithiau fe'i hystyrir yn un o lednentydd afon Amazonas, gan ei bod yn rhannu aber a'r afon honno.