Afon Tregatwg
Afon fechan ym Mro Morgannwg ydy Afon Tregatwg (Saesneg: Cadoxton River). Mae'n bum milltir o hyd ac yn un o'r afonydd byrraf yng Nghymru.
Math | cwrs dŵr, afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 5 metr |
Cyfesurynnau | 51.3954°N 3.2495°W |
Aber | Môr Hafren |
Cwrs
golyguMae'r afon yn tarddu ar bwys Llanfihangel-y-Pwll, lle mae dwy nant a elwir yn 'nentydd Wrinstone' ac yn cydgyfeirio gyda Nant Bullcroft. Oddi yno mae'n llifo drwy Ddinas Powys a thrwy'r Barri at gerrig llaid Bendricks lle mae'n aberu ym Môr Hafren.
Hanes
golyguMae rhannau isaf yr afon wedi cael eu haddasu yn helaeth yn y gorffennol. Ym 1884 dechreuodd cwmni Rheilffordd y Barri waith adeiladu ar ddociau Barri, a oedd yn torri i mewn i aber naturiol yr afon, a oedd yn gwyro i ffwrdd. Adeiladwyd llifddor ar yr un pryd â'r dociau er mwyn cadw'r dŵr yn groyw.
Dros y blynyddoedd mae'r afon wedi'i lygru'n fawr gyda llawer o'r bywyd ynddo'n marw.