Afon Welland
Afon o 65 milltir (105 km) o hyd yn nwyrain Lloegr yw Afon Welland. Mae'n tarddu ger pentref Sibbertoft yn Swydd Northampton, cyn iddi llifo i gyfeiriad gogledd-ddwyreiniol trwy trefi Market Harborough yn Swydd Gaerlŷr, Stamford a Spalding yn Swydd Lincoln ac ymuno â'r Wash ger pentref Fosdyke. Prif lednentydd yr afon yw Eye Brook, Afon Chater, Afon Gwash ac Afon Glen.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.8983°N 0.0308°E |
Tarddiad | Sibbertoft |
Aber | Y Wash |
Llednentydd | Eye Brook, Afon Chater, Afon Gwash, Afon Glen, Afon Jordan, Afon New |
Dalgylch | 1,580 cilometr sgwâr, 610 |
Hyd | 105 cilometr, 65 milltir |
Arllwysiad | 3.7 metr ciwbic yr eiliad, 131 |
Mae'r 14 milltir (23 km) rhwng Spalding a'r môr yn afon lanw, ac mae ganddynt forgloddiau i amddiffyn y tir rhag llifogydd. Mae llawer o'r tir yn yr ardal o dan lefel y môr, a byddai dan ddŵr oni bai am amddiffynfeydd o'r fath.
Am lawer o'i hyd mae'r afon yn ffurfio'r ffin Swydd Northampton a Swydd Gaerlŷr neu Rutland, ac wedyn rhwng Swydd Lincoln a Swydd Gaergrawnt.