Afon Wnion
afon yng Ngwynedd
Afon yn ne-ddwyrain Gwynedd yw Afon Wnion. Mae'n tarddu yn uchel ar lethrau Aran Benllyn tua phum milltir i'r de o Lanuwchllyn ac yn llifo i'r de-orllewin i aberu yn Afon Mawddach ger Abaty Cymer. Ar ei ffordd mae'n mynd heibio pentrefi bychain Rhyd-y-main a Bontnewydd, lle ceir pont drosti sy'n dyddio o'r 18g, ac yn llifo heibio i Ddolgellau lle ceir pont hardd arall, sef Y Bont Fawr. Ei hyd yw tua 12 milltir.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 56 metr |
Cyfesurynnau | 52.75°N 3.9°W |
Diau mai'r enw personol 'Gwynion' a geir yn enw'r afon (a'r 'gwyn' wedi troi'n 'gwn'); ceir llecyn o'r enw 'Pennar(th) Gwynion' ger Hengwrt yn y cyffiniau.
Ffynhonnell
golygu- Melville Richards, 'Enwau Lleoedd', yn Atlas Meirionnydd (Y Bala, 1975)