Mosg Akhmad Kadyrov

(Ailgyfeiriad o Akhmad Kadyrov Mosque)

Mae Mosg Akhmad Kadyrov (Rwseg: Мечеть Ахмата Кадырова, Mechet Akhmata Kadyrova; Tsietsnieg: Кадыров Ахьмадан цӀарах дина маьждиг) wedi ei leoli yn Grozny, prifddinas Tsietsnia. Mae'r mosg yn un o'r mwyaf yn Rwsia[1] ac fe'i gelwir yn swyddogol fel "Calon Tsietsnia" (Rwseg: Сердце Чечни, Serdtse Chechni ; Chechen: Нохчийчоьнан дог).[2]

Mosg Akhmad Kadyrov
MathMosg
Enwyd ar ôlAkhmad Kadyrov Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 16 Hydref 2008 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGrozny Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd5,000 m² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.3175°N 45.6939°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Otomanaidd Edit this on Wikidata

Enwir y mosg ar ôl Akhmad Kadyrov, arlywydd cyntaf Gweriniaeth Tsietsnia a thad i arlywydd y Weriniaeth heddiw, Ramzan Kadyrov. Mae dyluniad y mosg yn cynnwys set o minaretiau o daldra 62 medr (203 troefedd) sy'n seiliedig ar Fosg Sultan Ahmed yn Istanbul.[3]

Agorwyd y mosg yn swyddogol 16 Hydref 2008 mewn seremoni lle ymddangosodd arweinydd Tsietsnia Ramzan Kadyrov a sgwrsio â arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

Mae'r mosg wedi'i leoli ar lan hardd Afon Sunzha yng nghanol parc enfawr (14 hectar) ac mae'n rhan o gyfadeilad pensaernïol Islamaidd, sydd yn ychwanegol at y mosg, yn cynnwys Prifysgol Islamaidd Rwsia, y Kunta-Haji, a Gweinyddiaeth Ysbrydol Mwslimiaid Gweriniaeth Tsietsnia.

Mae dyluniad y mosg yn seiliedig ar arddull glasurol Otomanaidd.[4] Mae neuadd ganolog y mosg wedi'i orchuddio â chromen enfawr (diamedr - 16 metr, uchder - 32 m). Uchder y pedwar minaret yw 62 metr gan eu gwneud yn un o'r minaretiau uchaf yn ne Rwsia.[5] Mae waliau allanol a mewnol y mosg wedi'u gwneud o farmor, trafertin, tra bod y tu mewn wedi'i addurno â marmor gwyn.

Mae arwynebedd y mosg yn 5000 metr sgwâr sy'n caniatáu capasiti o fwy na deng mil o bobl.

Nodweddion golygu

 
Tu mewn i Fosg Akhmad Kadyrov

Mae'r waliau allanol a mewnol o dravertine marmor, ac mae tu mewn y deml wedi'i addurno'n gyfoethog â marmor gwyn, wedi'i gloddio yn ynys Marmara Adasi ym Môr Marmara (ger Balikesir, Twrci). Ar gyfer paentio patrymog, defnyddiwyd lliwiau synthetig a naturiol gydag ychwanegion arbennig i gynyddu hirhoedledd y lliwiau (am gyfnod o 50 mlynedd o leiaf). Dyddodwyd aur o'r ansawdd uchaf i gynhyrchu'r patrymau ysgrifennu gan arddangos penillion o'r Quran. Mae'r gilfach weddi yn wal qiblah y mosg yn 8 metr o uchder a 4.6 metr o led ac wedi'i gwneud o farmor gwyn. Mae caligraffi sy'n arddangos penillion o'r Quran wedi'u plethu'n fedrus i batrwm cyffredinol addurn pensaernïol y mosg. Mae'r brif gromen wedi'i arysgrifio â Surah 112 "al-Ikhlâs".

Rwsia 10 golygu

Yn 2013, cynhaliodd Rwsia'r gystadleuaeth "Russia 10", a ddyluniwyd gan bleidlais boblogaidd i benderfynu beth yw deg symbol gweledol mwyaf Rwsia. Ar ôl i’r mosg ddod yn ail ar ddiwedd ail rownd y gystadleuaeth, cyhoeddodd pennaeth Tsietsnia, Ramzan Kadyrov y byddai’n tynnu’r mosg o gymryd rhan yn y gystadleuaeth.[1] Credodd pennaeth Tsietsnia â roedd canlyniadau'r pleidleisio, yn ei farn ef, ddim yn cyfateb i nifer gwirioneddol y pleidleisiau a roddwyd. “Mae gennym ni bob rheswm i fod yn siŵr na chafodd y pleidleisiau a fwriwyd dros fosg Calon Tsietsnia gan y miliynau eu hystyried, er gwaethaf y ffaith bod yr arian wedi mynd i gyfrifon y gweithredwyr MegaFon a Beeline (cwmnioedd a chynnaliwyd y gystadleuaeth),” meddai Ramzan Kadyrov.[6] Trwy gydol y pleidleisio cyfan, roedd Mosg Calon Chechnya ar y blaen ymhlith y cyfranogwyr, ond ar y diwrnod olaf fe gollodd y lle cyntaf i'r Kolomna Kremlin. Cafodd mwy na 36.8 miliwn o bleidleisiau eu bwrw dros Galon Tsietsnia ac yn agos at 37.5 miliwn i'r Kremlin.

Cyhoeddodd pennaeth y weriniaeth Ramzan Kadyrov, a dramgwyddwyd gan ganlyniadau pleidleisio ar y rhyngrwyd, boicot o'r gweithredwyr symudol ffederal "Beeline" a "Megaphone". Wedi hynny, taflodd unigolion anhysbys wyau i swyddfeydd y cwmnïau hyn yn Grozny.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.regnum.ru/news/1071117.html
  2. "В Грозном торжественно открыли мечеть им. Ахмата Кадырова, которую в народе назвали "Сердце Чечни"". 17 October 2008.
  3. Beyond, Russia (2020-06-26). "7 facts about the "Heart of Chechnya" – the main mosque in the Russian Caucasus (PHOTOS)". www.rbth.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-26.
  4. "Akhmad Kadyrov Mosque: Gem of Chechnya". SalamWebToday (yn Saesneg). 2021-01-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-02. Cyrchwyd 2021-02-26.
  5. Beyond, Russia (2020-06-26). "7 facts about the "Heart of Chechnya" – the main mosque in the Russian Caucasus (PHOTOS)". www.rbth.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-11.
  6. Golubock, D. Garrison (2013-09-02). "Kadyrov Alleges Cheating in Rossia 10 Contest". The Moscow Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-26.