Alfred Dillon
Roedd Alfred Dillon (1841 – 13 Tachwedd 1915) yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol yn Senedd Seland Newydd. Yn ôl yr hanesydd David Hamer roedd Dillon yn enghraifft berffaith o wleidydd Rhyddfrydol "Seddonian" (roedd Seddon yn Brif Weinidog gwerinaidd ar SN), oherwydd ei gefndir gostyngedig, gwladaidd a'i apel fel "dyn y bobl".[1]
Alfred Dillon | |
---|---|
Ganwyd | 1847 Cymru |
Bu farw | 1915 Seland Newydd |
Dinasyddiaeth | Seland Newydd, Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, ffermwr |
Swydd | Aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Seland Newydd |
Plaid Wleidyddol | New Zealand Liberal Party |
Bywgraffiad
golyguBywyd cynnar
golyguRoedd Dillon yn dod o gefndir tlawd yng Nghymru cyn symud i Seland Newydd yn 1857.[2] Does dim sicrwydd o ddyddiad ei eni, ond mae cofnod o'i fedydd yn Eglwys Trefdraeth ar 12 Rhagfyr 1841. Mae'r cofnod bedydd yn nodi ei fod yn fab i John a Jane Dillon[3]. Wedi mudo i Seland Newydd bu'n gweithio am flynyddoedd fel labrwr fferm, gyrrwr gwartheg a chludwr cyn caffael tir; roedd yn brin ymysg Rhyddfrydwyr fel runholder (perchennog rhodfa defaid) gyda thua 3,500 acer (14 km2) o dir. Roedd yn areithydd gwael a bu William Russell, arweinydd annibynnol ceidwadol snoblyd yr wrthblaid yn y senedd yn ei ddilorni am fod yn anllythrenog. Ond roedd yr etholwyr cyffredin yn ei barchu fel dyn cyffredin a oedd wedi llwyddo drwy ei ymdrechion ei hun. Roedd ganddo ddelwedd o fod yn arloeswr garrw; yn fyr o gorff ond gyda brest fel casgen, yn gwisgo barf trwchus ac, fel arfer, wedi ei wisgo mewn dillad gwladaidd o frethyn cartref.[1]
Gyrfa wleidyddol
golyguSenedd Seland Newydd | ||||
---|---|---|---|---|
Blwyddyn | Tymor | Etholaeth | Plaid | |
1905–1908 | 16eg | Hawkes Bay | Rhyddfrydol | |
1908–1911 | 17eg | Hawkes Bay | Rhyddfrydol |
Llwyddodd Dillon i gael ei ethol fel cynrychiolydd etholaeth Hawkes Bae ym 1905, gan guro Arweinydd yr Wrthblaid, William Russell, daliodd gafael ar ei sedd yn etholiad 1908 ond fe'i collodd ym 1911.[4] Roedd yn 64 mlwydd oed ar adeg ei ethol am y tro cyntaf ac yn cael ei adnabod yn annwyl fel "Dad" gan yr aelodau Rhyddfrydol eraill.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Hamer 1988, t. 196.
- ↑ Hamer 1988, t. 362.
- ↑ Gwasanaeth Archifau Môn / Yr Eglwys yng Nghymru; Cofrestr Bedyddiadau yn Eglwys St Beuno Trefdraeth; Cofnod 385; tudalen 11; dyddiad 12/12/1841
- ↑ Wilson, James Oakley (1985) [First ed. published 1913]. New Zealand Parliamentary Record, 1840–1984 (arg. 4th). Wellington: V.R. Ward, Govt. Printer. t. 193. OCLC 154283103.
- ↑ Hamer 1988, t. 197.