Alfred Dreyfus
Swyddog milwrol Ffrengig o dras Iddewig a gyhuddwyd ar gam o fod yn ysbïwr i'r Almaen oedd Alfred Dreyfus (9 Hydref 1859 – 12 Gorffennaf 1935).
Alfred Dreyfus | |
---|---|
Ganwyd | 9 Hydref 1859 Mulhouse |
Bu farw | 12 Gorffennaf 1935 Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | person milwrol, swyddog y fyddin |
Priod | Lucie Dreyfus |
Plant | Pierre Dreyfus, Jeanne Lévy |
Perthnasau | Jérôme Salomon, Henri Jacques Dreyfus |
Gwobr/au | Croix de guerre 1914–1918, Officier de la Légion d'honneur, Chevalier de la Légion d'Honneur, Médaille commémorative de la guerre 1914–1918 |
llofnod | |
Ganed Drefus yn Mulhouse yn Alsace. Ar 5 Ionawr 1895, cafwyd ef yn euog o drosglwyddo dogfennau cyfrinachol i'r Almaen, ac wedi ei ddiswyddo fel swyddog, condemniwyd ef i garchar am oes ar Ynys y Diafol.
Dechreuodd ymgyrch i'w ryddhau, gan fod y dystiolaeth yn ei erbyn yn wan a bod gwrth-semitiaeth yn elfen yn yr achos. Yn 1898, cyhoeddodd Émile Zola ei bamffled enwog J'accuse...! am achos Dreyfus. Yn y pamffled yma, rhoddodd enw'r gwir ysbïwr, yr Hwngariad Ferdinand Walsin-Esterhazy. Rhyddhawyd Dreyfus o garchar ar 19 Medi 1899, ond dim ond ar 12 Gorffennaf 1906 y dyfarnwyd ef yn ddieuog yn derfynol.
Llyfryddiaeth
golygu- Lettres d'un innocent (1898)
- Les lettres du capitaine Dreyfus à sa femme (1899), ysgrifennwyd ar Ynys y Diafol
- Cinq ans de ma vie (1901)
- Souvenirs et correspondance, (cyhoeddwyd yn 1936, wedi ei farwolaeth)