Alice Through the Looking Glass

Ffilm ffantasi antur Americanaidd o 2016 yw Alice Through the Looking Glass a gyfarwyddwyd gan James Bobin, ysgrifennwyd gan Linda Woolverton a cynhyrchwyd gan Tim Burton, Joe Roth, Suzanne Todd a Jennifer Todd. Mae'n seiliedig ar y cymeriadau a grewyd gan Lewis Carroll ac yn ddilyniant i'r ffilm Alice in Wonderland a ryddhawyd yn 2010. Mae'r ffilm yn serennu Johnny Depp, Anne Hathaway, Mia Wasikowska, Matt Lucas, Rhys Ifans, Helena Bonham Carter a Sacha Baron Cohen ac yn cynnwys lleisiau Stephen Fry, Michael Sheen, Timothy Spall ac Alan Rickman, yn ei ran ffilm olaf.

Alice Through the Looking Glass
Alice Through the Looking Glass
Cyfarwyddwyd ganJames Bobin
Cynhyrchwyd gan
Awdur (on)Linda Woolverton
Seiliwyd arCymeriadau greuwyd gan Lewis Carroll
Yn serennu
Cerddoriaeth ganDanny Elfman
SinematograffiStuart Dryburgh
Golygwyd ganAndrew Weisblum
Stiwdio
Dosbarthwyd ganWalt Disney Studios Motion Pictures
Rhyddhawyd gan
  • Mai 10, 2016 (2016-05-10) (Llundain)
  • Mai 27, 2016 (2016-05-27) (Unol Daleithiau)
Hyd y ffilm (amser)113 munud[1]
GwladUnol Daleithiau America
IaithSaesneg
Cyfalaf$170 miliwn[2]
Gwerthiant tocynnau$299.4 miliwn[1]

Yn y ffilm, mae Alice yn dod o hyd i ddrych hudol sy'n ei chymryd nôl i Wlad Hud, lle mae'n canfod yr Hetiwr Gwallgof yn ymddwyn yn fwy gwallgof nac erioed ac yn eisiau darganfod y gwir am ei deulu. Mae Alice wedyn yn teithio drwy amser (gyda'r "Cronosffêr"), yn gweld ffrindiau a gelynion ar adegau gwahanol o'u bywydau, ac yn cychwyn ar ras i achub yr Hetiwr cyn i amser redeg allan.

Dangoswyd y ffilm gyntaf yn Llundain ar 10 Mai 2016 a fe'i ryddhawyd yn y sinemâu gan Walt Disney Pictures ar 27 Mai 2016. Cafodd y ffilm adolygiadau gwael gan y beirniaid ac ystyriwyd nad oedd wedi llwyddo cystal o ran gwerthiant tocynnau oherwydd y gymhariaeth gyda llwyddiant y ffilm gyntaf.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Alice Through the Looking Glass (2016)". Box Office Mojo. Cyrchwyd 27 Medi 2016.
  2. Brooks Barnes (M17 Mai 2016). "Alice in Wonderland, With Even More British Whimsy". The New York Times. Cyrchwyd 18 Mai 2016. Check date values in: |date= (help)