Alma Lutz
Ffeminist Americanaidd oedd Alma Lutz (1890 – 1973) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros hawliau cyfartal i fenywod, a swffragét. Ysgifennodd fywgraffiadau o ymgyrchwyr benywaidd eraill, sy'n gofnod hanesyddol a llenyddol pwysig.[1][2]
Alma Lutz | |
---|---|
Ganwyd | Alma Lutz 1890 Jamestown |
Bu farw | 1973 |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros hawliau merched, ymgyrchydd, swffragét, llenor |
Magwraeth a choleg
golyguFe'i ganed yn Jamestown, North Dakota yn 1890 i Mathilde (Bauer) a George Lutz. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Boston, Choleg Vassar.
Yn Vassar roedd hi'n weithgar yn y mudiad ffeministaidd ac ar ôl graddio yn 1912 dychwelodd i Ogledd Dakota lle parhaodd i ymgyrchu dros bleidlais menywod (etholfraint).[1][2][3]
Gwaith
golyguSymudodd Lutz i Boston yn 1918, lle mynychodd Ysgol Fusnes Prifysgol Boston. Ymunodd â Phlaid Genedlaethol y Menywod fel un o'u hysgrifenwyr ac ar yr un pryd arbenigodd mewn bywgraffiadau menywod â'u rôl flaenllaw yn hanes America. Daeth actifiaeth a hanes ymgyrchwyr dros hawliau merched yn waith gydol oes iddi.[1][3]
Daeth Lutz yn athro yng Ngholeg Radcliffe lle cynhaliodd seminar graddedig ar 'Fenywod o Fewn Hanes America'.
Bywyd personol
golyguYn Vassar, cyfarfu Lutz â Marguerite Smith (bu farw Gorffennaf 6, 1959), ei chyd-letywr. Daeth y ddwy yn aelodau o Blaid y Menywod Cenedlaethol gan rannu tŷ yn Boston a chartref haf, Highmeadow, yn Berlin, Efrog Newydd, o 1918 hyd at farwolaeth Smith yn 1959.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Guide to the Alma Lutz Papers, 1912–1971". Vassar College – Archive & Special Collections Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-31. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2017.
- ↑ 2.0 2.1 Spongberg, M.; Curthoys, A.; Caine, B. (2016). Companion to Women's Historical Writing. Springer. t. 322. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2017.
- ↑ 3.0 3.1 Lutz, Alma. Susan B. Anthony Rebel, Crusader, Humanitarian. t. 446. Cyrchwyd 10 Awst 2017. Mae'r erthygl yn ymgorffori testun o'r ffynhonnell hwn, sydd yn y parth cyhoeddus.