Amddiffynydd yr Eglwys

cyfnodolyn

Cylchgrawn yr "Eglwys Sefydliedig" yng Nghymru (sef yr Eglwys Anglicanaidd) oedd Amddiffynydd yr Eglwys.[1] Roedd yn fisolyn gwrth-anghydffurfiol Cymraeg ei iaith, ac roedd yr erthyglau ynddo yn cynnwys materion crefyddol, gwleidyddol, byd natur, newyddion lleol, cartref a thramor. Cafwyd tri golygydd iddo, sef y Parch. Henry Thomas Edwards (1837-1884), y Parch. David Walter Thomas (Gwallter Geraint o Geredigion, 1829-1905) a'r Canon Daniel Evans (1832-1888).

Amddiffynydd yr Eglwys Cyhoeddwyd o Mehefin 1873 hyd Mai 1882, & argr. gan J. Morris, y Rhyl

Bu cylchgronau crefyddol eraill gan Eglwys Lloegr y bu eu cylchrediad trwy Gymru gyfan ac oedd yn debyg iddo - rhai cyn ei amser, ac un digon tebyg ar ei ôl. Gallent gynnwys adroddiadau ar faterion cyfoes a chrefyddol y dydd, barddoniaeth neu drafodaethau darllenwyr (trwy gyhoeddi eu llythyron), ac hysbysebion o bob math. Y Teitlau cysylltiol hyn oeddynt: Y Dywysogaeth (1870-1881); Y Llan (1882), & Y Llan a'r Dywysogaeth ([1884]-1955).

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Amddiffynydd yr Eglwys", Llyfrgell Genedlaethol Cymru