Anabledd dysgu
Mae anabledd dysgu yn derm ambarél sy'n cwmpasu llawer o wahanol anableddau deallusol. Mae'n golygu bod gallu cynhenid person i ddysgu yn cael ei effeithio ac efallai nad ydynt yn dysgu pethau cyn gynted â phobl eraill. Gelwir anabledd dysgu hefyd yn anhawster dysgu, nam deallusol neu anabledd deallusol. Nid afiechyd yw anabledd dysgu. Mae rhai unigolion gydag anabledd dysgu hefyd yn cael problemau iechyd meddwl fel iselder ysbryd, ond nid yr un peth yw hynny.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | anhwylder datblygiadol penodol, anabledd, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | anhwylder datblygiadol penodol, anabledd, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fel rheol mae gan unigolion anabledd dysgu ers eu geni neu weithiau ers eu plentyndod cynnar, fe'u hachosir gan ddigwyddiadau sy'n digwydd cyn neu yn ystod geni neu o bryd i'w gilydd oherwydd afiechyd mewn plentyndod. Er ei fod yn gyflwr parhaol, mae pobl gydag anabledd dysgu yn gallu, ac yn llwyddo, i ddysgu a datblygu gyda'r mathau cywir o gefnogaeth gan bobl eraill.
Yn aml caiff anableddau dysgu eu categoreiddio fel ysgafn, canolig neu ddifrifol. Dywedir bod gan rai unigolion anghenion cefnogaeth uchel. Efallai bod ganddynt anabledd dysgu difrifol, ymddygiad sydd weithiau'n heriol, nam ychwanegol ar y golwg neu’r clyw, awtistiaeth, salwch meddwl neu lawer o broblemau iechyd ychwanegol.
Mae pobl gydag anabledd dysgu yn amrywio'n fawr o ran y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn diwallu eu hanghenion sylfaenol. Er enghraifft, bydd angen cymorth gydag ymolchi a gwisgo ar rai pobl, tra bydd llawer o bobl eraill yn gallu byw'n eithaf annibynnol gyda llawer yn llai o gefnogaeth.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in:
|accessdate=
(help)