Andrew Green
Llyfrgellydd yw Andrew Green (ganwyd 1952). Ganwyd yn Stamford, Swydd Lincoln, a’i fagu yn Ne Swydd Efrog. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth, Wakefield, a bu'n astudio Clasuron yng Ngholeg Gonville a Caius, Caergrawnt. Mae'n fwyaf amlwg fel cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol (Prif Weithredwr) Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Andrew Green | |
---|---|
Ganwyd | 1952 |
Galwedigaeth | llyfrgellydd, chief librarian |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Gyrfa
golyguWedi graddio o Gaergrawnt symudodd i Gymru yn 1973 gan dderbyn sawl a dyrchafiad ym maes llyfrgellyddiaeth. Bu'n gweithio mewn llyfrgelloedd prifysgolion yn Aberystwyth (1973-74), Caerdydd (1975-89), Sheffield (1989-92) ac Abertawe (1992-98), lle bu'n Gyfarwyddwr y Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth.
Llyfrgellydd Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
golyguYm 1998 penodwyd Andrew fel nawfed Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan ddilyn Lionel Madden. Yn ystod ei gyfnod denwyd cynulleidfaoedd newydd i'r Llyfrgell; agorwyd yr adeilad i ddefnydd cyhoeddus ehangach, sefydlwyd yr Archif Sgrin a Sain Genedlaethol, Culturenet Cymru a Chasgliad y Bobl, a datblygwyd gwasanaethau ar-lein, llawer ohonynt yn seiliedig ar ddigido casgliadau presennol. Ymddeolodd o'r swydd yn 2013.
Llyfrgelloedd a Thechnoleg Gwybodaeth
golyguMae Andrew Green wedi gwasanaethu ar lawer o gyrff gwybodaeth ac addysgol, gan gynnwys Cyngor Prifysgol Aberystwyth, Pwyllgor Cynghori Cymru ar y Cyngor Prydeinig a'r Pwyllgor Llyfrgelloedd Adneuo Cyfreithiol. Yn 2013, etholwyd ef yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgiedig Cymru. O 2014 i 2017 etholwyd ef yn Gymrawd Anrhydeddus o CILIP (Sefydliad Siartredig Llyfrgell a Gwybodaeth Gweithwyr Proffesiynol) yn 2015. Mae'n aelod o banel o ‘Speakers for Schools', elusen a sefydlwyd gan y newyddiadurwr Robert Peston i annog myfyrwyr mewn ysgolion y wladwriaeth i ddatblygu uchelgeisiau uchel, ac yn cadeirio bwrdd rheoli adolygiad cyfnodol newydd Cymreig.
Mae Green yn swyddog neu'n aelod o nifer o gyrff, gan gynnwys Cymdeithas y Coleg, Llyfrgelloedd Cenedlaethol a Phrifysgol (SCONUL) (Cadeirydd 2002-2004), y Panel Ymgynghorol Adneuo Cyfreithiol, y Pwyllgor Llyfrgelloedd Adneuo Cyfreithiol, Grŵp Arianwyr Rhwydwaith Gwybodaeth Ymchwil, Cyngor Ymgynghorol CyMAL, Sefydliad Siartredig Llyfrgell a Gweithwyr Proffesiynol Gwybodaeth (CILIP) Cymru (Llywydd), Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) (Cadeirydd).
Hyrwyddo Addysg
golyguCadeiriodd Andrew y corff strategol cyntaf sy'n ymwneud â hyrwyddo addysgu cyfrwng Cymraeg mewn sefydliadau addysg uwch. Fe'i benodwyd i Fwrdd Coleg Cenedlaethol Cymru yn 2013 a bu'n Gadeirydd rhwng 2014 a 2017. Yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd gwelodd y Coleg yn gwreiddio ac yna addasu wrth iddi dyfu. O dan ei gadeiryddiaeth dechreuwyd ar y gwaith o ymestyn gwaith y Coleg o faes addysg uwch i addysg bellach hefyd.???
Awdur
golyguMae wedi ysgrifennu’n eang ar lyfrgelloedd, gwybodaeth a sut mae rhannu gwybodaeth yn yr oes gyfoes. Cyhoeddodd hefyd ddau lyfr; In the chair: how to guide groups and manage meetings, gan Parthian Books ym mis Medi 2014 a Cymru mewn 100 gwrthrych gan Wasg Gomer ym mis Medi 2018. Mae'n cadw blog ddwyieithog, Gwallter, sy'n ymdrin â materion llenyddol, celfyddydol, technoleg gwybodaeth a dysg a gwleidyddiaeth.
Anrhydeddau
golygu- Gorsedd y Beirdd - Anrhydeddwyd ef yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 2009, gan ei dderbyn i'r wisg wen gan yr Orsedd. Ei enw barddol yw Gwallter bach.
- Llyfr y Flwyddyn, 2019 - Enillodd ei lyfr, Cymru mewn 100 Gwrthrych[1][2] wobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yn y categori, 'Categori Ffeithiol Greadigol Cymraeg'.[3] Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Llyfryddiaeth
golygu- In the Chair: How to Guide Groups and Manage Meetings (Aberteifi: Parthian, 2014)
- Cymru mewn 100 Gwrthrych (Gwasg Gomer, 2018)
- Wales in 100 Objects (Gwasg Gomer, 2018)
- Rhwng y Silffoedd [nofel] (Y Lolfa, 2020)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-20. Cyrchwyd 2019-06-20.
- ↑ http://gwallter.com/cymru-mewn-100-gwrthrych
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/48692442?ns_source=twitter&ns_linkname=wales&ns_campaign=bbc_cymru&ns_mchannel=social