Anhwylder Dysthymic

Mae dysthymia yn fath ysgafnach, ond eto mwy parhaol, o iselder.

Anhwylder Dysthymic
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathanhwylder hwyliau, clefyd Edit this on Wikidata

Nid oes llawer o lawenydd, fel arfer, neu ddim llawenydd o gwbl i bobl gyda dysthymia. Os oes dysthymia gyda chi efallai na fyddwch yn gallu cofio adeg pan roeddech yn teimlo’n hapus, llawn cyffro, neu wedi’ch ysbrydoli. Gall ymddangos fel pe baech wedi bod yn isel eich ysbryd trwy gydol eich bywyd.

Symptomau golygu

Mae’n bosib nad yw’n hawdd i chi fwynhau pethau a chael hwyl. Yn hytrach, byddwch yn tueddu at fod yn ddigychwyn a thynnu yn ôl, byddwch yn poeni yn aml a byddwch yn beirniadu eich hunan fel methiant. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo’n euog, yn bigog, yn araf, a chael anhawster cael cwsg rheolaidd.

Rhoddir y diagnosis pan fydd person wedi bod mewn hwyliau isel di-dor am o leiaf ddwy flynedd. Gall pobl gyda dysthymia ymddangos yn weddol isel eu hysbryd fel arfer cymaint felly nes ei fod yn ymddangos i fod yn rhan annatod o’r eu personoliaeth. Pan mae pobl yn chwilio am driniaeth ar gyfer dysthymia o’r diwedd nid yw’n anghyffredin i ddysgu bod y cyflwr hwn wedi bod gyda nhw ers nifer o flynyddoedd.

Diagnosis golygu

Dyma crynodeb o’r camau diagnosis or cyhoeddiad Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders[1]

  • Person sydd wedi bod yn isel ei ysbryd ar gyfer y rhan fwyaf o’r amser bron bob dydd am o leiaf ddwy flynedd. Ar gyfer plant a phobl ifanc sydd mewn hwyliau pigog, y ffrâm amser yw o leiaf un flwyddyn.
  • Person sydd wedi profi o leiaf dau o’r symptomau canlynol tra’u bod yn isel eu hysbryd:
    1. Naill ai gorfwyta neu ddiffyg archwaeth.
    2. Cysgu gormod neu gael anhawster cysgu.
    3. Blinder, diffyg egni.
    4. Diffyg hunan-barch.
    5. Anhawster canolbwyntio neu wneud penderfyniadau.
    6. Teimlo’n anobeithiol.
  • Person sydd heb gael cyfnod rhydd o symptomau yn ystod cyfnod o ddwy flynedd (un flwyddyn ar gyfer plant a phobl ifanc).
  • Ni fu episod mawr melancolaidd yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd o amser (un flwyddyn ar gyfer plant a phobl ifanc).
  • Person sydd heb gael episod manig, cymysg neu hypomanig.
  • Nid yw’r symptomau’n ymddangos dim ond gyda phresenoldeb anhwylder cronig arall.
  • Nid oes cyflwr meddygol arall neu ddefnydd sylweddau (h.y., alcohol, cyffuriau, meddyginiaeth, tocsinau) sydd wedi achosi symptomau.
  • Mae symptomau‘r person yn achosi llawer o ofid neu anhawster gartref, yn y gwaith neu feysydd pwysig eraill.

Cyfieiriadau golygu

  1. Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders. Va: American Psychiatric Association Publishing. 2013. ISBN 9780890425558.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Anhwylder Dysthymic ar wefan  , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall