Anian I, Esgob Bangor
Clerigwr o Gymru a fu'n Esgob Bangor o 1267 hyd tua 1306 oedd Anian I, weithiau Einion I (bu farw tua 1306).
Anian I, Esgob Bangor | |
---|---|
Ganwyd | 13 g |
Bu farw | c. 1306 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | esgob esgobaethol, Esgob Bangor |
Bywgraffiad
golyguWedi bod yn Archddiacon Môn, etholwyd ef yn esgob ar 8 Tachwedd 1267, a chytunwyd i hyn gan y brenin ar 12 Rhagfyr. Cysegrwyd ef gan Archesgob Caergaint yng Nghaergaint yn 1267/8.
Ar y cychwyn, roedd Anian yn cydweithio'n agos a Llywelyn ap Gruffudd, a bu'n gynrychiolydd i'r tywysog yn y trafodaethau a arweiniodd at gytundeb rhwng Llywelyn a'i frawd Dafydd yn 1269 ac a'i frawd arall, Rhodri, yn 1272.
Pan aeth pethau'n ddrwg rhwng y Tywysog a'r brenin yn 1277, roedd Anian yn amharod i'w gefnogi yn erbyn y brenin, a ffôdd i Loegr. O ganlyniad, bu'r berthynas rhyngddo ef a Llywelyn yn ddrwg am rai blynyddoedd. Ymddengys eu bod wedi cymodi erbyn 1280, ond yn rhyfel 1282 cefnogodd Anian y brenin yn erbyn Llywelyn unwaith eto.
Esgoblyfr Bangor
golyguCysylltir y Liber Pontificalis Aniani (Esgoblyfr Bangor) ag ef weithiau, ond y farn gyffredinol yw mai esgob diweddarach, Anian II, Esgob Bangor oedd yr Anian yma.