Anita Loos

actores (1888-1981)

Awdur, dramodydd a sgriptwraig ffilm Americanaidd oedd Anita Loos (26 Ebrill 188918 Awst 1981). Mae hi'n fwyaf adnabyddus fel awdur y nofel lwyddiannus Gentlemen Prefer Blondes (1925), a addasodd hefyd fel drama lwyfan a sgript ffilm.

Anita Loos
Ganwyd26 Ebrill 1889, 26 Ebrill 1888 Edit this on Wikidata
Mount Shasta Edit this on Wikidata
Bu farw18 Awst 1981 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • San Diego High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr, nofelydd, hunangofiannydd, actor ffilm, bywgraffydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGentlemen Prefer Blondes Edit this on Wikidata
Arddullcomedi Edit this on Wikidata
TadR. Beers Loos Edit this on Wikidata
PriodUnknown, John Emerson Edit this on Wikidata

Ei bywyd golygu

Fe'i ganed yng Nghaliffornia i rieni a oedd yn berchen ar bapur newydd, a throdd yn gyflym at ysgrifennu fel bywoliaeth - newyddiaduraeth, dramâu un act, a sgriptiau ar gyfer ffilmiau tawel. Yn awdur ffraeth, ym 1912 cafodd gontract gyda'r cwmni cynhyrchu ffilm Biograph Company. Am gyfnod bu'n gweithio fel sgriptwraig o dan gyfarwyddyd D. W. Griffith. Yn ddiweddarach, ynghyd â’i gŵr John Emerson, ysgrifennodd gyfres o ffilmiau llwyddiannus a helpodd yr actor Douglas Fairbanks i ddod yn seren.

O'r 1920au bu’n gweithio yn Efrog Newydd a Chaliffornia, yn ysgrifennu ar gyfer y sinema a’r llwyfan. Roedd ei nofel Gentlemen Prefer Blondes yn llwyddiant mawr, gyda'i llun doniol o fateroliaeth y Dauddegau Gwyllt. Roedd ei pherthynas gyda'i gŵr, merchetwr rhonc, yn anodd, ac o ddechrau'r 1930au roeddent yn byw ar wahân. Tua diwedd ei hoes trodd fwyfwy at ysgrifennu cofiannau.

Gweithiau golygu

Ffuglen golygu

  • Gentlemen Prefer Blondes (1925)
  • But Gentlemen Marry Brunettes (1927)
  • A Mouse is Born (1951)
  • No Mother to Guide Her
  • Fate Keeps on Happening (1984)

Llyfrau ffeithiol golygu

  • A Girl Like I (hunangofiant) (1966)
  • Kiss Hollywood Goodbye (hunangofiant) (1974)

Dramâu golygu

  • Gentlemen Prefer Blondes (1926, 1949)
  • Gigi (1951)
  • Chéri (1959)