Anna Deavere Smith

actores a aned yn Baltimore yn 1950

Actores Americanaidd yw Anna Deavere Smith (ganwyd 18 Medi 1950) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd. Hi oedd yn actio Dr. Nancy McNally yn y ffilm The West Wing (2000–06), ac fel Gloria Akalitus yn y gyfres deledu Nurse Jackie (2009–15). Yn 2019 mae'n chwarae rol Tina Krissman yn y sioe For the People (ABC).

Anna Deavere Smith
Ganwyd18 Medi 1950 Edit this on Wikidata
Baltimore, Maryland Edit this on Wikidata
Man preswylBaltimore, Maryland Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Arcadia, Pennsylvania
  • Western High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, ysgrifennwr, dramodydd, actor, sgriptiwr, academydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Carnegie Mellon
  • Ysgol Gelf Tisch, UDA Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Dyniaethau Cenedlaethol, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Drama Desk ar gyfer Sioe Un-Person Eithriadol, Gwobr Drama Desk ar gyfer Sioe Un-Person Eithriadol, Cymrodoriaeth MacArthur, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Washington D.C. am yr Actores Gefnogol Orau, Darlith Jefferson, Gwobr George Polk, Phyllis Franklin Award, Cymrodoriaeth Guggenheim, honorary doctor of the Yale University, Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman, Global Citizen Awards Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Baltimore, Maryland ar 18 Medi 1950. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Arcadia, Pennsylvania a Western High School.[1][2][3][4]

Yn 2013 enillodd Wobr Dorothy a Lillian Gish, un o brif wobrau celf yn yr Unol Daleithiau America, gwerth $300,000.

Yn 2015 cafodd ei dewis fel 'Darlithydd Jefferson' gan Waddol Cenedlaethol ar gyfer y Celfyddydau (National Endowment for the Arts). Hi yw cyfarwyddwr a sefydlydd Institute on the Arts and Civic Dialogue ym Mhrifysgol Efrog Newydd. [5][6][7][8]

Magwraeth golygu

Ganwyd Smith ym 1950 i deulu Affricanaidd-Americanaidd yn Baltimore, Maryland, yn ferch i Anna Rosalind (née Young), prifathro ysgol elfennol, a Deaver Young Smith, Jr, masnachwr coffi.

Dechreuodd fynychu'r ysgol yn fuan ar ôl i'r ddinas ddechrau integreiddio disgyblion du a gwyn o fewn ysgolion cyhoeddus, a mynychodd Anna ysgolion mwyafrif-du a mwyafrif-gwyn yn ystod ei blynyddoedd cyntaf. Mae hi'n gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd y Gorllewin, ysgol i ferched.[9][10]

Astudiodd actio yng Ngholeg Beaver (Prifysgol Arcadia erbyn hyn), lle'r oedd yn un o saith o fenywod Affricanaidd-Americanaidd yn ei dosbarth, gan raddio yn 1971. Yn ystod ei gyrfa yn y coleg, dechreuon nhw gydadnabod eu bod yn Affricanaidd. Aeth i Arfordir Gorllewinol UDA ar gyfer ei gwaith graddedig, gan dderbyn M.F.A. mewn actio gan Theatr Geidwadol Americanaidd yn San Francisco, California.[11]

Ffilm golygu

Blwyddyn Teitl Rôl Notes
1982 Soup for One Deborah
1983 Touched Switch Board Operator
1987 Unfinished Business Anna
1993 Dave Mrs. Travis
1993 Philadelphia Anthea Burton
1995 The American President Robin McCall
2000 Twilight: Los Angeles, 1992 Various Awdur a chynhyrchydd; addasiad o ddrama Smith yn 1994
2003 The Human Stain Mrs. Silk
2004 The Manchurian Candidate Political pundit
2005 Cry_Wolf Headmaster Tinsley
2005 Rent Mrs. Jefferson
2007 The Kingdom Maricella Canavesio
2007 Life Support Mrs. Wallace
2008 Rachel Getting Married Carol
2010 Seizing Justice: The Greensboro 4 Llais
2018 Can You Ever Forgive Me? Elaine

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Dyniaethau Cenedlaethol (2012), Gwobr y 'Theatre World' (1994), Gwobr Drama Desk ar gyfer Sioe Un-Person Eithriadol (1993), Gwobr Drama Desk ar gyfer Sioe Un-Person Eithriadol (1994), Cymrodoriaeth MacArthur (1996), Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Washington D.C. am yr Actores Gefnogol Orau (2003), Darlith Jefferson (2015), Gwobr George Polk (2016), Phyllis Franklin Award (2016), Cymrodoriaeth Guggenheim (2016), honorary doctor of the Yale University (2014), Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman (2012), Global Citizen Awards (2019)[12][13][14][15] .


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14658760h. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14658760h. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.nytimes.com/2009/11/10/health/10easy.html. http://www.nytimes.com/2011/11/19/nyregion/at-lincoln-center-gala-wine-was-by-the-grass-nocturnalist.html.
  3. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 14 Awst 2015. "Anna Deavere Smith". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anna Deavere Smith". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: http://famousdude.com/22462-anna-deavere-smith.html. https://archive.org/details/womenplaywrights00pete/page/306.
  5. Galwedigaeth: https://www.nybooks.com/contributors/anna-deavere-smith/. The New York Review of Books. https://archive.org/details/womenplaywrights00pete/page/306. http://www.nndb.com/honors/321/000044189/. http://www.nndb.com/people/131/000030041/. http://ibdb.com/venue.php?id=1120.
  6. Anrhydeddau: https://www.neh.gov/about/awards/national-humanities-medals. dyddiad cyrchiad: 6 Awst 2017. http://www.theatreworldawards.org/past-recipients.html. https://www.spelman.edu/docs/honorary-degrees/honorary-degree-recipients---1977-present---as-of-november-2022---revised-(012023).pdf?sfvrsn=f4347e51_2. https://www.atlanticcouncil.org/events/flagship-event/global-citizen-awards/previous-gca-recipients/.
  7. Schechner, Richard (Fall 2018). "There’s a lot of work to do to turn this thing around: An Interview with Anna Deavere Smith" (yn en). TDR/The Drama Review (New York University - Massachusetts Institute of Technology) 62 (3): 35-50. https://doi.org/10.1162/dram_a_00771.
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-17. Cyrchwyd 2019-06-22.
  9. "Smith, Anna Y." The Baltimore Sun. 19 Medi 2003. Cyrchwyd 3 Ionawr 2014.
  10. Henry Louis Gates, Jr., Finding Your Roots, Season 2: The Official Companion to the PBS Series, tt. 115-120
  11. Ferington, Esther. "Anna Deavere Smith". National Endowment for the Humanities. Cyrchwyd 3 Ionawr 2014.
  12. https://www.neh.gov/about/awards/national-humanities-medals. dyddiad cyrchiad: 6 Awst 2017.
  13. http://www.theatreworldawards.org/past-recipients.html.
  14. https://www.spelman.edu/docs/honorary-degrees/honorary-degree-recipients---1977-present---as-of-november-2022---revised-(012023).pdf?sfvrsn=f4347e51_2.
  15. https://www.atlanticcouncil.org/events/flagship-event/global-citizen-awards/previous-gca-recipients/.