Annie Oakley
Chwimsaethwraig (Saesneg: sharpshooter) o'r Unol Daleithiau a serennodd yn Sioe Gorllewin Gwyllt Buffalo Bill Cody oedd Annie Oakley (ganwyd Phoebe Ann Moses; 13 Awst 1860 – 3 Tachwedd 1926).
Annie Oakley | |
---|---|
Ffugenw | Annie Oakley |
Ganwyd | Phoebe Ann Mosey 13 Awst 1860 Ohio |
Bu farw | 3 Tachwedd 1926 Greenville |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | perfformiwr mewn syrcas, perfformiwr stỳnt |
Cyflogwr | |
Priod | Frank E. Butler |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Ohio, Neuadd Enwogion New Jersey |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Daeth yn heliwr medrus yn blentyn i ofalu am anghenion ei theulu tlawd yng ngorllewin Ohio. Yn 15 oed, enillodd gystadleuaeth saethu yn erbyn y saethwr profiadol Frank E. Butler, a briododd yn ddiweddarach. Ymunodd y pâr â sioe Buffalo Bill ym 1885 a pherfformio yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Roedd cynulleidfaoedd wedi'u syfrdanu o'i gweld yn saethu sigarét o wefusau ei gŵr neu'n hollti cerdyn chwarae o'r ymyl ar 30 cam. Ffurfiodd gyfeillgarwch agos â Tȟatȟáŋka Íyotake (Sitting Bull), chyn-bennaeth llwyth y Sioux, tra roedd y ddau yn gweithio gyda Buffalo Bill.
Ar ôl damwain rheilffordd ddifrifol ym 1901, bu'n rhaid iddi fabwysiadu ffordd dawelach o fyw, ac aeth ar daith mewn drama am ei gyrfa. Rhoddodd hefyd wersi i fenywod mewn saethu a hunanamddiffyn.
Wedi ei marwolaeth, addaswyd ei stori ar gyfer sioeau cerdd llwyfan a ffilmiau, gan gynnwys Annie Get Your Gun.
-
Poster yn darlunio Annie Oakely
-
Annie Oakley yn saethu dros ei hysgwydd gan ddefnyddio drych yn ei llaw
-
Annie Oakley ym 1922