Anouk Aimée
Actores o Ffrainc oedd Nicole Françoise Florence Dreyfus[1] (27 Ebrill 1932 – 18 Mehefin 2024), a elwid yn broffesiynol yn Anouk Aimée. Ymddangosodd mewn 70 o ffilmiau rhwng 1947 a 2019. Er mai Ffrangeg oedd mwyafrif ei ffilmiau, fe wnaeth hi hefyd ffilmiau yn Sbaen, Prydain Fawr, yr Eidal a'r Almaen, ynghyd â rhai cynyrchiadau Americanaidd.
Anouk Aimée | |
---|---|
Ffugenw | Anouk Aimée |
Ganwyd | Nicole Françoise Florence Dreyfus 27 Ebrill 1932 17fed arrondissement Paris |
Bu farw | 18 Mehefin 2024 18fed arrondissement Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, actor |
Taldra | 1.73 metr |
Pwysau | 64 cilogram |
Mam | Geneviève Sorya |
Priod | Edouard Zimmermann, Nikos Papatakis, Pierre Barouh, Albert Finney |
Partner | Marcello Mastroianni |
Plant | Manuela Papatakis |
Gwobr/au | Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - Drama ar Ffilm, Gwobr Gwyl ffilm Cannes am yr Actores Orau, Y César Anrhydeddus, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Ours d'or d'honneur, Commandeur des Arts et des Lettres, Medal of the City of Paris, Henri-Langlois award |
Cafodd ei geni ym Mharis, yn ferch i'r actor Henri Murray[2] a'r actores Geneviève Sorya. Roedd ei thad yn Iddewig, tra bod ei mam yn Gatholig. Cafodd fagwraeth Gatholig ond yn ddiweddarach trodd at Iddewiaeth.[2] Cafodd ei haddysg foreuol yn l'École de la rue Milton ym Mharis; École de Barbezieux; Pensionnat de Bandol; ac Institution de Megève. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n ddisgybl yn Ysgol Mayfield, Dwyrain Sussex, ond gadawodd cyn sefyll yr arholiadau terfynol. Ar ôl dechrau ei gyrfa ffilm yn 14 oed, astudiodd actio a dawns yn ei blynyddoedd cynnar. Astudiodd theatr yn Lloegr, ac wedyn astudiodd gelf a dawns ddramatig gydag Andrée Bauer-Thérond.[3]
Ymhlith ei ffilmiau mae La dolce vita (1960) Federico Fellini, ac ar ôl hynny fe'i hystyriwyd yn "seren gynyddol a ffrwydrodd" i fyd y ffilm.[4] Wedi hynny bu’n actio yn 8½ (1963) gan Fellini, Lola gan Jacques Demy (1961), Justine gan George Cukor (1969), La tragedia di un uomo ridicolo gan Bernardo Bertolucci (1981) a Prêt à Porter gan Robert Altman (1994). Enillodd Wobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn Motion Picture - Drama a Gwobr BAFTA am yr Actores Orau a chafodd ei henwebu am Wobr yr Academi am yr Actores Orau am ei hactio yn A Man and a Woman (1966). Fe wnaeth y ffilm "bron ailgynnau'r rhamant ffrwythlon ar y sgrin mewn cyfnod o foderniaeth llawn amheuon," a daeth ag enwogrwydd rhyngwladol iddi.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Anouk Aimée" (yn Ffrangeg). L'encinémathèque. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Awst 2014. Cyrchwyd 9 August 2014.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Sandy Flitterman-Lewis. "Anouk Aimée". Jewish Women: A Comprehensive Historical Encyclopedia (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Mehefin 2024.
- ↑ Unterburger, Amy L. (ed.) Actors and Actresses, International Dictionary of Films and Filmmakers (3rd edition), St James Press (1997), pp. 9–11
- ↑ Thompson, Dave. Dancing Barefoot: The Patti Smith Story, Chicago Review Press (2011) p. 17