Anould
Mae Anould yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc [1]
![]() | |
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 3,339 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 24.23 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Saint-Léonard, La Houssière, Ban-sur-Meurthe-Clefcy, Corcieux, Fraize, Gerbépal ![]() |
Cyfesurynnau | 48.1856°N 6.9456°E ![]() |
Cod post | 88650 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Anould ![]() |
![]() | |
Lleoliad Golygu
Mae cymuned Anould yn gasgliad o bentrefannau yn nyffryn afon Meurthe. Mae’r prif bentrefan, sy’n tadogi ei enw i’r gymuned, tua 12 cilomedr o Saint-Die-des-Vosges , a thua 16 cilomedr o Gerardmer. Mae’r gymuned yn cynnwys pentrefannau Anould, Chalgoutte, le Chapelet, Déveline, Gerhaudel, les Gouttes, les Granges, la Hardalle, la Haute Fontaine, l’Anoux, la Mangoutte, le Paire, le Raingoutte, le Souche a Venchères.
Safleoedd a Henebion Golygu
- Roche du Sphinx (Craig y sffincs): safle o harddwch naturiol gyda golygfeydd godidog o’r dyffryn. Gellir cyrraedd y brig trwy ddilyn llwybr botanegol
- Adfeilion hen gastell
- Eglwys St. Antoine, a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1828, a ailadeiladwyd ar ôl 1944. Mae’r eglwys yn cynnwys 27 o ffenestri bae, a gynlluniwyd gan y pensaer F B Jankosky[2], ac organ Roethinger a osodwyd ym 1969.
- Cofeb rhyfel
- Oratori Sant Richarde.[3]
- Nifer o adeiladau fferm hynafol[4]
-
Hen bopty fferm
-
Ffermdy hynafol
-
Ffermdy a gweirglodd
-
Eglwys Saint-Antoine
Pobl enwog o Anould Golygu
- Jean-Baptiste Lemire (1867- 1945): cyfansoddwr.
- Albert Pierrat: Rheolwr mwynfeydd.[5]
- Martin (1665) a Nicolas Ferry (1690-1763), gwneuthurwyr clychau
Cysylltiadau Rhyngwladol Golygu
Mae Anould wedi'i gefeillio â:
Gweler hefyd Golygu
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ "gwefan y gymuned". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-27. Cyrchwyd 2017-04-06.
- ↑ Les Ateliers Loire, Références : Inventaire complet des vitraux de Gabriel Loire par pays, France (Vosges) : Anould, Eglise paroissiale].
- ↑ L'oratoire de sainte Richarde
- ↑ Le patrimoine architectural et mobilier de la commune sur le site officiel du ministère français de la Culture (base architecture et patrimoine), Ministère de la Culture (France), Médiathèque de l'architecture et du patrimoine (archives photographiques) diffusion RMN, et service régional de l'inventaire général de la Région Lorraine
- ↑ Biographie vosgienne PIERRAT Albert