Anwen Jones
Academydd o Gymraes a darlithydd mewn drama
Mae Anwen Jones (ganwyd 13 Chwefror 1969) yn Ddirprwy Is-Ganghellor yn Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Aberystwyth, ac yn Ddarllenydd mewn Astudiaethau Theatr.[1]
Anwen Jones | |
---|---|
Ganwyd | 13 Chwefror 1969 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Graddiodd Jones o Brifysgol Bryste gyda BA Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Gymharol Ffrangeg a Saesneg. Aeth Anwen ymlaen i gwblhau MPhil yn Prifysgol Aberystwyth. Ei swydd addysgu gyntaf oedd swydd ddarlithio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ond mae hi wedi treulio'r rhan fwyaf o'i gyrfa fel darlithydd mewn Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi wedi cyhoeddi ar Paul Claudel. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi yn Saesneg ac yn Gymraeg ar theatr genedlaethol yng Nghymru, drama a theatr Ffrengig a theatr gyfoes.
Cyhoeddiadau
golygu- "Cyfieithu Cyfrifol: Esther, Saunders Lewis, a Phillip Polack", Llên Cymru 41 (2018), tt. 145–61
- Perfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards (Gwasg Prifysgol Cymru, 2017)
- "Living Maps of Wales: Cartography as Inclusive, Cultural Practice in the works of Owen Rhoscomyl (Arthur Owen Vaughan) & Cliff McLucas", International Journal of Welsh Writing in English 2 (2014), tt. 106–23
- "The Dynamics of Devolution: An Enquiry into the Role and Significance of Wales' Post-Devolution National Theatres", North American Journal of Welsh Studies 8, tt. 84-99[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 9781786830340, Perfformio'r Genedl - Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards". www.gwales.com. Cyrchwyd 16 Ionawr 2020.
- ↑ "Proffiliau staff - Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth". www.aber.ac.uk. Cyrchwyd 16 Ionawr 2020.