Apêl 18 Mehefin
Araith gan Charles de Gaulle, arweinydd Lluoedd Ffrainc Rydd, ym 1940 oedd Apêl 18 Mehefin (Ffrangeg: L'Appel du 18 Juin). Ystyriwyd yr apêl yn aml fel tarddiad y résistance yn erbyn meddiannaeth Ffrainc gan yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Anerchodd de Gaulle y Ffrancod ar ddarllediad radio gan y BBC o Lundain yn dilyn cwymp Ffrainc. Datganodd nad oedd y rhyfel wedi dod i ben ar gyfer Ffrainc eto, ac anogodd y wlad i gefnogi'r résistance. Hon yw un o'r areithiau pwysicaf yn hanes Ffrainc.
Apêl 18 Mehefin | |
Enghraifft o'r canlynol | araith |
---|---|
Dyddiad | 18 Mehefin 1940 |
Awdur | Charles de Gaulle |
Dyddiad cyhoeddi | 18 Mehefin 1940 |
Enw brodorol | Appel du 18 Juin |
Gwladwriaeth | Ffrainc, y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |