Aradr eira gylchol

Mae Aradr eira gylchol yn defnyddio cylch o lafnau sydd yn torri trwy eira trwm wrth symud mewn cylch, ac yn taflu’r eira i ffordd o gledrau’r rheilffordd. Dyfeisiwyd yr aradr gan J.W. Elliot, deintydd o Doronto ym 1869.[1]. Datblygwyd ei gynllun gan Orange Jull, o Orangeville, Ontario, a chreodd o modelau gweithredol. Gwerthodd o’r hawliau adeiladu i Frodir Leslie o Doronto, ac adeiladwyd yr un cyntaf gan y Rotary Steam Shovel Manufacturing Company yn Paterson, New Jersey.[2]

Aradr eira gylchol
Mathmaintenance of way equipment, snowplow Edit this on Wikidata
Rhan orolling stock Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aradr eira gylchol yn Amgueddfa Drafnedigaeth Genedlaethol St Louis

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Wedi archifio - The Rotary Snowplow - A Canadian Invention! - Yikes! - The Kid's Site of Canadian Trains - Library and Archives Canada". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-26. Cyrchwyd 2019-09-10.
  2. "The Leslie Brothers and Their Giant Snowblower" awdur Paul Swanson, Cylchgrawn Trains, Ionawr 1987