Y Llaw Gudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
{{Teitl italig}}
[[Nofel]] dditectif gan [[E. Morgan Humphreys]] yw '''''Y Llaw Gudd''''', a gyhoeddwyd yn 1924 gan [[Hughes a'i Fab]], [[Wrecsam]]. Mae wedi cael ei disgrifio fel "un o'r [[Nofel dditectif|nofelau ditectif]] cynharaf yn Gymraeg - onid y gyntaf un" gan y beirniad [[Bedwyr Lewis Jones]].<ref>Bedwyr Lewis Jones, 'Edward Morgan Humphreys', yn ''Dewiniaid Difyr'', gol. Mairwenn a Gwyn Jones (Gwasg Gomer, 1983), tud. 51.</ref>
 
Dyma'r stori sy'n cyflwyno cymeriad John Aubrey, y [[ditectif]] pwyllog ac eofn sy'n ymddangos yn y gyfrol ''[[Dirgelwch Gallt y Ffrwd]]'' (1938), a ystyrir yn glasur o'i fath. Roedd y stori yn torri tir newydd yn Gymraeg ar y pryd, er bod y deunydd yn gyfarwydd i ddarllenwyr yr oes hon, sef cyfres o lofruddiaethau y mae Aubrey yn gorfod datrys eu cyfrinach. Cyferbynnir dulliau rhesymegol, pwyllog Aubrey gan rai ei gyd-dditectif yn yr achos, yr Inspector o [[Scotland Yard]] sy'n meddwl ei fod yn gwybod popeth ond sy'n methu datrys y dirgelwch.
 
==Cyfeiriadau==