Thomas Foulkes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
creu erthygl using AWB
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedl | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
 
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedldinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
Pregethwr o [[Gymru]] oedd '''Thomas Foulkes''' ([[1731]] - [[15 Mai]] [[1802]]).
Roedd '''Thomas Foulkes''' ([[1731]], - [[15 Mai]], [[1802]]) yn gynghorydd, sef bregethwr cynnar, oedd a chysylltiadau cryf gyda dwy blaid y Methodistiaid, [[Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr|Y Methodistiaid Wesleaidd]] a'r [[Eglwys Bresbyteraidd Cymru|Methodistiaid Calfinaidd.]]
 
==Cefndir ei grefydd==
Cafodd ei eni yn Llandrillo, Sir Ddinbych yn 1731 a bu farw ym [[Machynlleth]]. Cofir Foulkes fel un o'r cynghorwyr Methodistaidd cynnar.
Ganwyd Thomas Foulkes yn [[Llandrillo, Sir Ddinbych|Llandrillo]], [[Sir Feirionnydd]]. Tyddynwyr oedd ei rieni. Pan oedd tua 23 mlwydd oed symudodd i [[Caer|Gaer]] i weithio fel [[saer coed]]. Yng Nghaer daeth yn gyfeillgar â gŵr ieuanc o'r enw Robert Roberts, yr hwn a fu wedi hynny yn bregethwr Wesleaidd. O dan ddylanwad ei gyfaill dechreuodd mynychu Capel Wesleaidd yr Octagon. Ymunodd â chymdeithas y Wesleaid yn Neston, Swydd Gaer lle clywodd John Wesley yn pregethu ym 1756 gan ddod dan deimladau ysbrydol dwys.
 
Ychydig wedi ei dröedigaeth yng Nghaer symudodd i'r [[Bala]] i agor siop. Gan nad oedd achos Wesleaidd yn Y Bala, ymunodd a seiat y Methodistiaid Calfinaidd yno a dechreuodd cynghori i'r enwad hwnnw. Gan fod dwy blaid y Methodistiaid, ar y pryd, yn parhau i fod yn gymdeithasau o fewn [[Eglwys Loegr]], mi fyddai'n anghyfreithiol i aelodau oedd heb eu hordeinio'n offeiriaid Eglwys Loegr ''pregethu''. I osgoi eu herlyn galwyd y pregethwyr lleyg yn ''Gynghorwyr'' a'r hyn roeddynt yn dweud wrth gymdeithasau a seiadau yn ''air o gyngor'' yn hytrach na phregeth.
 
==Priodasau==
Priododd Thomas Foulkes teirgwaith, roedd pob un o'i wragedd a chysylltiadau pwysig yn hanes datblygiad Methodistiaeth Galfinaidd Cymru. Margaret, ferch Humphrey Jones oedd ei wraig gyntaf, bu eu priodas ym 1758 Roedd Humphrey Jones yn un o sylfaenwyr Methodistiaeth Galfinaidd yn Y Bala ac yn gyfaill a gohebydd i [[Howel Harris]]. Bu Margaret farw o wewyr esgor ym 1759, ni fu plentyn byw o'r briodas. Ym 1761, priodwyd Foulkes â Jane, gweddw David Jones a mam Sarah Jones, a ddaeth wraig i [[Thomas Charles]] ym 1783. Bu Jane farw ym 1785.
 
Roedd Thomas a Sarah Charles, hefyd, yn cadw siop yn y Bala, gan nad oedd gan Thomas bywoliaeth eglwysig, er gwaetha'r ffaith ei fod yn offeiriad Eglwys Loegr; y siop oedd unig gynhaliaeth y teulu. Er mwyn peidio gorfod cystadlu am fusnes efo'i llysferch a'i fab yng nghyfraith enwog symudodd Thomas Foulkes i [[Machynlleth|Fachynlleth]] gan agor siop yno.
 
Trydedd wraig Thomas Foulkes oedd Lydia, merch i Simon Lloyd, Plas yn Dre'R Bala a chwaer i [[Simon Lloyd]] (1756 - 1836) un o offeiriaid cyfoethogaf y Methodistiaid. Bu iddynt wyth o blant.
 
==Deuoliaeth==
Er ei fod wedi dod yn gynghorydd i'r Methodistiaid Calfinaidd, parhaodd Thomas Foulkes i ddanfon arian i achos y Methodistiaid Wesleaidd, ac i [[John Wesley]] ei hun. Talodd am gyfieithu a chyhoeddi cyfieithiadau John Evans o ''Brif Feddyginiaeth Wesley'' ym 1759 ac o ''Reolau yr Unol Gymdeithasau'' ym 1761.
 
==Marwolaeth==
Ym 1802 daeth Owen Davies a John Hughes i Fachynlleth ar ran y genhadaeth Wesleaidd Gymraeg newydd, croesawodd Foulkes nhw i'w gartref a threfnodd iddynt bregethu yn y capel Calfinaidd lleol. Cafodd strôc yn ystod pregeth Davies a bu farw ychydig ddyddiau yn niweddarach, gan ei esgeuluso o'r frwydr daeth wedi hynny rhwng y ddau enwad.
 
==Cyfeiriadau==
*[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-FOUL-THO-1731 Thomas Foulkes - Y Bywgraffiadur Cymreig]
 
{{Rheoli awdurdod}}