Thomas Foulkes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
 
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
Roedd '''Thomas Foulkes''' ([[1731]], - [[15 Mai]], [[1802]]) yn gynghorydd, sef bregethwr cynnar, oedd a chysylltiadau cryf gyda dwy blaid y Methodistiaid, [[Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr|Y Methodistiaid Wesleaidd]] a'r [[Eglwys Bresbyteraidd Cymru|Methodistiaid Calfinaidd.]] <ref>{{Cite web|title=FOULK(E)S, THOMAS (1731 - 1802), cynghorwr Methodistaidd bore {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-FOUL-THO-1731|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2020-03-30}}</ref>
 
==Cefndir ei grefydd==
Ganwyd Thomas Foulkes yn [[Llandrillo, Sir Ddinbych|Llandrillo]], [[Sir Feirionnydd]]. Tyddynwyr oedd ei rieni. Pan oedd tua 23 mlwydd oed symudodd i [[Caer|Gaer]] i weithio fel [[saer coed]]. Yng Nghaer daeth yn gyfeillgar â gŵr ieuanc o'r enw Robert Roberts, yr hwn a fu wedi hynny yn bregethwr Wesleaidd. O dan ddylanwad ei gyfaill dechreuodd mynychu Capel Wesleaidd yr Octagon. Ymunodd â chymdeithas y Wesleaid yn Neston, Swydd Gaer lle clywodd John Wesley <ref>{{Cite web|title=Wesley [Westley], John (1703–1791), Church of England clergyman and a founder of Methodism|url=https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-29069;jsessionid=15B8850C4ECD0CF5B1A525334B4A50E2|website=Oxford Dictionary of National Biography|access-date=2020-03-30|doi=10.1093/ref:odnb/29069|language=en}}</ref> yn pregethu ym 1756 gan ddod dan deimladau ysbrydol dwys. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2272262/2276033/12#?xywh=94%2C568%2C2034%2C1322 Yr Eurgrawn Wesleaidd] Rhagfyr 1829</ref>
 
Ychydig wedi ei dröedigaeth yng Nghaer symudodd i'r [[Bala]] i agor siop. Gan nad oedd achos Wesleaidd yn Y Bala, ymunodd a seiat y Methodistiaid Calfinaidd yno a dechreuodd cynghori i'r enwad hwnnw. Gan fod dwy blaid y Methodistiaid, ar y pryd, yn parhau i fod yn gymdeithasau o fewn [[Eglwys Loegr]], mi fyddai'n anghyfreithiol i aelodau oedd heb eu hordeinio'n offeiriaid Eglwys Loegr ''pregethu''. I osgoi eu herlyn galwyd y pregethwyr lleyg yn ''Gynghorwyr'' a'r hyn roeddynt yn dweud wrth gymdeithasau a seiadau yn ''air o gyngor'' yn hytrach na phregeth.
 
==Priodasau==
Priododd Thomas Foulkes teirgwaith, roedd pob un o'i wragedd a chysylltiadau pwysig yn hanes datblygiad Methodistiaeth Galfinaidd Cymru. Margaret, ferch Humphrey Jones oedd ei wraig gyntaf, bu eu priodas ym 1758 Roedd Humphrey Jones yn un o sylfaenwyr Methodistiaeth Galfinaidd yn Y Bala ac yn gyfaill a gohebydd i [[Howel Harris]]. Bu Margaret farw o wewyr esgor ym 1759, ni fu plentyn byw o'r briodas. Ym 1761, priodwyd Foulkes â Jane, gweddw David Jones a mam Sarah Jones, a ddaeth wraig i [[Thomas Charles]] <ref>{{Cite web|title=CHARLES, THOMAS (‘Charles o'r Bala’; 1755 - 1814). {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-CHAR-THO-1755|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2020-03-30}}</ref> ym 1783. Bu Jane farw ym 1785.
 
Roedd Thomas a Sarah Charles, hefyd, yn cadw siop yn y Bala, gan nad oedd gan Thomas bywoliaeth eglwysig, er gwaetha'r ffaith ei fod yn offeiriad Eglwys Loegr; y siop oedd unig gynhaliaeth y teulu. Er mwyn peidio gorfod cystadlu am fusnes efo'i llysferch a'i fab yng nghyfraith enwog symudodd Thomas Foulkes i [[Machynlleth|Fachynlleth]] gan agor siop yno.
 
Trydedd wraig Thomas Foulkes oedd Lydia, merch i Simon Lloyd, Plas yn Dre'Rr Bala a chwaer i [[Simon Lloyd]] (1756 - 1836) <ref>{{Cite web|title=LLOYD, SIMON (1756 - 1836), clerigwr Methodistaidd {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-LLOY-SIM-1756|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2020-03-30}}</ref> un o offeiriaid cyfoethogaf y Methodistiaid. Bu iddynt wyth o blant.
 
==Deuoliaeth==