Thomas Foulkes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 6:
Ganwyd Thomas Foulkes yn [[Llandrillo, Sir Ddinbych|Llandrillo]], [[Sir Feirionnydd]]. Tyddynwyr oedd ei rieni. Pan oedd tua 23 mlwydd oed symudodd i [[Caer|Gaer]] i weithio fel [[saer coed]]. Yng Nghaer daeth yn gyfeillgar â gŵr ieuanc o'r enw Robert Roberts, yr hwn a fu wedi hynny yn bregethwr Wesleaidd. O dan ddylanwad ei gyfaill dechreuodd mynychu Capel Wesleaidd yr Octagon. Ymunodd â chymdeithas y Wesleaid yn Neston, Swydd Gaer lle clywodd John Wesley <ref>{{Cite web|title=Wesley [Westley], John (1703–1791), Church of England clergyman and a founder of Methodism|url=https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-29069;jsessionid=15B8850C4ECD0CF5B1A525334B4A50E2|website=Oxford Dictionary of National Biography|access-date=2020-03-30|doi=10.1093/ref:odnb/29069|language=en}}</ref> yn pregethu ym 1756 gan ddod dan deimladau ysbrydol dwys. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2272262/2276033/12#?xywh=94%2C568%2C2034%2C1322 Yr Eurgrawn Wesleaidd] Rhagfyr 1829</ref>
 
Ychydig wedi ei dröedigaeth yng Nghaer symudodd i'r [[Bala]] i agor siop. Gan nad oedd achos Wesleaidd yn Y Bala, ymunodd a seiat y Methodistiaid Calfinaidd yno, a dechreuodd cynghori i'r enwad hwnnw. <ref>[https://archive.org/details/ytadaumethodista02joneuoft/page/n121/mode/2up Jones, John Morgan Y Tadau Methodistaidd Cyfrol II. Gwasg Lewis Evans, Abertawe (1897). Tudalen 91]. [[Y Tadau Methodistaidd (llyfr)|Y Tadau Methodistaidd : eu llafur a'u llwyddiant]]</ref> Gan fod dwy blaid y Methodistiaid, ar y pryd, yn parhau i fod yn gymdeithasau o fewn [[Eglwys Loegr]], mi fyddai'n anghyfreithiol i aelodau oedd heb eu hordeinio'n offeiriaid Eglwys Loegr ''pregethu''. I osgoi eu herlyn galwyd y pregethwyr lleyg yn ''Gynghorwyr'' a'r hyn roeddynt yn dweud wrth gymdeithasau a seiadau yn ''air o gyngor'' yn hytrach na phregeth.
 
==Priodasau==