Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Wicipedia:Y Caffi"

Ychwanegwyd 1,510 beit ,  3 mis yn ôl
 
:::Dyma ni: [[Choctaw County, Alabama]], [[Cherokee County, Alabama]] a [[Glades County, Florida]]. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 10:29, 29 Mawrth 2020 (UTC)
 
::: Helo [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]]. Llongyfarchiadau ar yr erthyglau yma. Mae'n anhygoel gweld beth sy'n bosib efo data yn unig ac mae'r erthyglau yn edrych yn gynhwysfawr. Mae gen i gwpl o sylwadau. Yn gyntaf mae'r ail gyfeiriad, sef [http://www.census.gov/popest/data/counties/totals/2013/files/CO-EST2013-Alldata.csv Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau] i weld wedi tori ar bob erthygl. Yn ail, dw'i yn poeni am y gallu i olygu'r erthyglau yma yn y dyfodol. Nes i ddilyn y canllawiau er mwyn golygu [[Cherokee County, Alabama]] er mwyn newid ''Cafodd ei henwi ar ôl Cherokee Nation'' i ''Cafodd ei henwi ar ôl y [[Cherokee]]'' ond roedd rhaid ail osod y cyfeiriadau ac nid oedd yn hollol glir pa destun oedd angen cadw, o ganlyniad nes i ddileu'r gwybodlen ar ddamwain. Roedd pethau ym mwy clir (i mi) trwy olygu'r cod ond rwy’n disgwyl bydd llawer yn y dyfodol yn dewis golygu yn y ffordd newid. Felly, y cwestiwn yw, ydy'n ni'n gweld hwn fel creu heriau di angen ar gyfer y dyfodol? Ydy e'n well gwneud 'snapshot' statig o'r data er mwyn gwneud e'n haws i bobol olygu? neu dyle ni derbyn bod rhai erthyglau fel hyn ar bynciau mwy 'niche' yn dibynnu ar ddata er mwyn o olygyddion ganolbwyntio ar bynciau craidd? Dw'i ddim yn siŵr beth yw'r ymateb ond credu bod e'n pwysig bod ni'n ofyn y cwestiwn er mwy'n cadw'r proses o cyfrannu i Wicipedia yn syml ac yn apelgar i gymuned eang. [[Defnyddiwr:Jason.nlw|Jason.nlw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Jason.nlw|sgwrs]]) 13:58, 30 Mawrth 2020 (UTC)
''