Max von Sydow: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
B gair ar goll Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 8:
Ymddangosodd Von Sydow yn ei ffilm gyntaf y tu allan i Sweden yn portreadu [[Iesu Grist]] yn ''The Greatest Story Ever Told'' (1965). Chwaraeodd offeiriad yn ''The Exorcist'' (1973), un o'r ffilmiau iasoer enwocaf erioed, a'r dilyniant ''Exorcist II: The Heretic'' (1977). Cafodd ei glodfori am sawl rôl sobor a chymhleth, yn eu plith ymfudwr o [[Småland]] i [[Minnesota]] yn ''Utvandrarna'' (1971) a ''Nybyggarna'' (1972), a'r prif gymeriad yn ''Steppenwolf'' (1974; addasiad o'r [[Steppenwolf|nofel]] gan [[Herman Hesse]]). Bu Von Sydow hefyd yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd o chwarae dynion drwg a chymeriadau cefnogol eraill mewn ffilmiau poblogaidd, gan gynnwys Ming the Merciless yn ''Flash Gordon'' (1980), Osric yn ''Conan the Barbarian'' (1982), a Blofeld yn ''Never Say Never Again'' (1983). Dychwelodd i'r llwyfan yn 1988 i bortreadu Prospero yn ''[[The Tempest]]'', un o ddramâu [[Shakespeare]], yn theatr yr Old Vic dan gyfarwyddiaeth [[Jonathan Miller]].<ref name=Guardian/>
Priododd Max von Sydow â'r gwneuthurwr ffilmiau dogfen Catherine Brelet yn 1997, ac ymsefydlodd ym [[Paris|Mharis]]. Cawsant ddau fab, Cédric ac Yvan. Derbyniodd Von Sydow ddinasyddiaeth Ffrengig yn 2002.<ref name=Guardian/> Parhaodd i actio mewn ffilmiau yn ei henoed, yn aml mewn rhannau bychain cofiadwy, er enghraifft yn ''Minority Report'' (2002)
== Cyfeiriadau ==
|