20fed ganrif yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 121:
Roedd ganddo neges glir y byddai’r iaith yn marw onibai bod ei siaradwyr yn
 
barod i’w hamddiffyn ac i ymgyrchu dros sicrhau ei pharhad a’i dyfodol.  Galwodd Saunders Lewis ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni a thalu trethi a thrwyddedau os nad oedd yn bosibl i wneud hynny drwy'r Gymraeg. Yn ei farn ef, byddai angen i ymgyrchwyr fod yn barod i dalu dirwyon a wynebu carchar am eu daliadau. Arweiniodd ei araith at sefydliad [[Cymdeithas yr Iaith]] yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontardulais yn 1962 a bu’r Gymdeithas yn allweddol yn sicrhau bod Deddf Iaith 1967 yn cael ei phasio. Yn Chwefror 1963 trefnodd y Gymdeithas y protestiadau torfol cyntaf pan ataliwyd y traffig ar Bont Trefechan, Aberystwyth gan fyfyrwyr o [[Aberystwyth]] a [[Bangor]].  Yn ystod y 1960au a'r 1970au bu nifer o brotestiadau didrais tebyg a charcharwyd neu ddirwywyd ymgyrchwyr. Ymhlith y rhain oedd y canwr poblogaidd [[Dafydd Iwan]].  Am gyfnod peintiwyd neu ddifrodwyd arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg ar hyd a lled Cymru gan gefnogwyr y Gymdeithas ac arweiniodd yr ymgyrch hon at sefydlu'r egwyddor o arwyddion dwyieithog yng Nghymru. <ref>{{Cite web|url=https://web.archive.org/web/20130510230203/http://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Iaith/TyngedIaith/index.htm|title=Ymgyrchu|date=|access-date=|website=Llyfrgell Genedlaethol Cymru|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> <ref>{{Cite web|url=https://web.archive.org/web/20130523073756/http://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Iaith/index.htm|title=Ymgyrchu|date=|access-date=|website=Llyfrgell Genedlaethol Cymru|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>