Siartiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
 
Roedd yn ei anterth yn 1839, 1842, a 1848 a chyflwynwyd deiseb i [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Dŷ'r Cyffredin]] yn hawlio newid. Ar y cyfan, defnyddiwyd dulliau cwbwl ddi-drais fel cyfarfodydd a deisebion. Yr ardaloedd mwyaf gweithgar oedd ardaloedd glo De Cymru, Gogledd Lloegr, [[Dwyrain Canolbarth Lloegr]], [[Ardal y Crochendai|Ardal y Crochendai, Stafford]] a'r ''Black Country'', sef bwrdeistrefi Dudley, Sandwell a Walsall.
 
<br />
 
== Cefndir ==
Roedd Siartaeth yn un o’r mudiadau dosbarth gweithiol torfol gyntaf mewn hanes. Y prif reswm dros ffurfio mudiad y Siartwyr oedd oherwydd siom a dicter rhai o’r dosbarth canol gyda Deddf Diwygio 1832 ac anhapusrwydd y dosbarth gweithiol nad oedden nhw wedi cael y [[Pleidleisio|bleidlais]] o gwbl.  Roedd y diffyg grym gwleidyddol i ddosbarth gweithiol Cymru wedi cynyddu poblogrwydd Siartaeth yng Nghymru, yn enwedig yn ardaloedd diwydiannol newydd y wlad. Cynyddodd hyn y galwad am newidiadau i’r system wleidyddol yng Nghymru. Roedd problemau eraill yn poeni’r dosbarth gweithiol hefyd, fel amodau byw a gwaith gwael, system atgas y tlotai a basiwyd gan Ddeddf Newydd y Tlodion yn 1834, agwedd y Llywodraeth tuag at y dosbarth gweithiol a’r undebau.  Roedd y cosbau llym a roddwyd gan y Llywodraeth i Ferthyron Tolpuddle yn dangos eu gwrthwynebiad i’r gweithwyr yn ymuno gyda’r undebau.  Roedd anhegwch mawr yn dal i fodoli yn y sustem bleidleisio gan fod dim pleidlais i’r dosbarth gweithiol yn golygu na allent wella eu hamgylchiadau byw a gwaith. Os nad oeddent yn medru lleisio eu barn gwleidyddol drwy gael y bleidlais byddent yn methu chwilio datrysiad i’r problemau cymdeithasol eraill oedd yn eu hwynebu yn eu bywyd bob dydd.
 
Lluniodd cefnogwyr Siartiaeth ddogfen o’r enw Siartr y Bobl a gafodd ei gyhoeddi yn 1838. Roedd y chwech pwynt yn dangos dylanwad clir y Radicaliaid:
 
1.     Pleidlais i bob dyn yn 21 oed.
 
2.     Pleidlais gudd er mwyn diogelu’r etholwr.
 
3.     Dim cymwysterau eiddo i Aelodau Seneddol fel y gallai etholwyr ethol dyn a ddewiswyd ganddynt, boed yn ddyn cyfoethog neu’n ddyn tlawd.
 
4.     Talu Aelodau Seneddol fel y gallai dynion gweithiol cyffredin fforddio cynrychioli eu hetholaeth.
 
5.     Etholaethau cyfartal er mwyn sicrhau’r un gynrychiolaeth am yr un nifer o etholwyr.
 
6.     [[Etholiad|Etholiadau]] blynyddol.  Credai’r Siartwyr y byddai hyn yn atal llwgrwobrwyo a llygredd yn ystod y broses etholiadol yn ogystal a gwneud Aelodau Seneddol yn fwy atebol i’r bobl.
 
Roedd agwedd y Llywodraeth tuag at gwynion y dosbarth gweithiol wedi cael eu ddangos yn y ffordd roedd Merthyron Tolpuddle wedi cael eu trin. Roedd y protestwyr hynny eisiau cryfhau awdurdod yr undebau llafur ond cosbwyd hwy yn llym gan y Llwyodraeth. <ref>{{Cite web|url=http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-11/cym/radicaliaeth-a-phrotest-1810-1848.pdf|title=Radicaliaeth a Phrotest|date=|access-date=|website=CBAC|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
== Cymru ==
Llinell 13 ⟶ 34:
Maes glo'r de oedd cadarnle'r Siartwyr. Yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]], y Siartydd mwyaf amlwg oedd [[Hugh Williams]], a oedd yn frawd yng nghyfraith i Richard Cobden, y gwleidydd radicalaidd. Yn [[Llanelli]] yr oedd [[David Rees]] golygydd ''[[Y Diwygiwr]]'' yn ffigwr amlwg. Ym [[Merthyr Tudful]], roedd [[Morgan Williams]]; yr enwog Dr [[Willliam Price]] o [[Llantrisant|Lantrisant]]; a [[John Frost]] yn [[Sir Fynwy]]. Dedfrydwyd Frost a'i ddilynwyr yn [[Neuadd y Sir, Trefynwy]] i'w [[Crogi, diberfeddu a chwarteru|crogi a'u chwarteru]].
 
<br />
 
== Cyfeiriadau ==
<references />
{{eginyn hanes}}