Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gary Lloyd"

No change in size ,  blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
B (→‎top: clean up)
Chwaraeodd Lloyd dros 500 o gemau yn [[Uwch Gynghrair Cymru]] gan ennill y Bencampwriaeth wyth gwaith yn ogystal â chodi [[Cwpan Cymru]] ar bedair achlysur a Chwpan y Gynghrair ar chwe achlysur.
 
Er cael treial gydag [[C.P.D. Dinas Abertawe|Abertawe]], dechreuodd Lloyd ei yrfa’n chwarae i’w glwb lleol, Llanelli cyn ymuno â'r [[C.P.D. Tref Y Barri|Barri]] yn Uwch Gynghrair Cymru ym 1994<ref name="welsh-premier">{{cite web|url=http://welsh-premier.com/index.php/people/players/all-time-appearances |title=Gary Lloyd |publishedpublisher=welsh-premier.com}}</ref>
 
Chwaraeodd 282 o gemau i’r Barri rhwng 1994 a 2003, sef record ymddangosiadau’r clwb yn yr Uwch Gynghrair, gan ennill y Bencampwriaeth saith o weithiau mewn wyth tymor euraidd gyda’r clwb, a chipio Cwpan Cymru a Chwpan y Gynghrair bedair gwaith yr un.
 
Yn dilyn problemau ariannol y clwb, ymunodd â [[C.P.D. Casnewydd|Chasnewydd]] am dymor ond dychwelodd i Uwch Gynghrair Cymru yn 2004-05 gyda Chaerfyrddin gan ennill Cwpan y Gynghrair am y pumed tro a chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru yn 2004-05. Daeth awr fwyaf Lloyd i Gaerfyrddin yng [[Cwpan UEFA|Nghwpan UEFA]], pan sgoriodd ddwywaith wrth guro Longford Town 5-1 ym muddugoliaeth gynta’r clwb yn Ewrop.<ref>{{cite web |url=http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/football/europe/4722241.stm |title=Carmarthen 5-1 Longford |publishedpublisher=BBC Sport}}</ref>
 
Yn 2006, dychwelodd Lloyd i Lanelli gan ennilly Bencampwriaeth am yr wythfed tro a Chwpan y Gynghrair am y chweched tro yn ei yrfa.
 
Gwnaeth 29 o ymddangosiadau llawn mewn gemau Ewropeaidd i’r Barri, Caerfyrddin a Llanelli a Lloyd hefyd yw’r unig chwaraewr i gael ei alw i garfan ryngwladol [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Cymru]] tra’n dal i chwarae’n y gynghrair genedlaethol, a hynny i wynebu [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Belg|Gwlad Belg]] yn 1997.<ref name="sgorio">{{cite web |url=http://www.s4c.cymru/sgorio/2012/oriel-yr-anfarwolion-gary-lloyd/ |title=Oriel yr Anfarwolion: Gary Lloyd |work=Sgorio |publishedpublisher=s4c.cymru/sgorio}}</ref>
 
Ym mis Hydref 2012 cafodd Lloyd ei urddo'n aelod o [[Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru]].<ref name="sgorio" />