Dafydd ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Gwybodlen using AWB
B prawfddarllen, llyfr
Llinell 10:
 
==Rhyfel 1282-83==
Roedd Dafydd wedi cael addewid am diroedd yng ngogledd Cymru gan Edward yn dâl am ei gymorth, ond ni chafodd y cyfan a addawyd iddo. Ar [[Sul y Blodau]]<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-DAFY-APG-1283.html [[Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein]];] adalwyd 21 Mawrth 2016</ref> (21 Mawrth 1282)<ref>[[Gwyddoniadur Cymru]], tud. 261; [[Gwasg Prifysgol Cymru]] (2008)</ref> ymosododd Dafydd ar [[Penarlâg|Benarlâg]], gan ddechrau'r rhyfel a roes derfyn ar deyrnas Gwynedd. Roedd i Dafydd ei hun ran amlwg yn y rhyfel, a phan laddwyd Llywelyn mewn ysgarmes yng [[Cilmeri|Nghilmeri]] ddiwedd y flwyddyn honno cyhoeddwyd Dafydd yn dywysog yn ei le. Nid oedd yr un gefnogaeth i Dafydd ag i Lywelyn, ond llwyddodd i gadw [[Castell Dolwyddelan]] am gyfnod. Wedi i'r castell yma syrthio i fyddin Edward ar [[18 Ionawr]] 1283, enciliodd Dafydd i [[Castell y Bere|Gastell y Bere]], lle bu byddin o dros 3,000 o wŷr yn gwarchae arno. Bu raid i'r garsiwn bychan ildio ar [[25 Ebrill]]<ref>{{Cite book|title=Hanes Cymru|last=Davies|first=John|publisher=Penguin History|year=2007|isbn=9780140284768|location=|pages=148}}</ref> ond llwyddodd Dafydd i ddianc i [[Castell Dolbadarn|Gastell Dolbadarn]], cyn gorfod chwilio am loches yn y mynyddoedd. Ymddengys iddo gael ei fradychu gan rai o'i wyr ei hun, a chymerwyd ef yn garcharor ar lethrau [[Cader Idris]].
 
==Ei ddiwedd==
Ar [[28 Mehefin]] 1283 galwodd Edward I [[senedd]] i gyfarfod yn [[Amwythig]] i farnu Dafydd. Ar [[30 Medi]] dedfrydwyd ef i farwolaeth am [[Teyrnfradwriaeth|deyrnfradwriaeth]], oherwydd ei fod wedi torri cytundebau a wnaeth â'r brenin. Cafodd ei ddienyddio yn Amwythig ar [[3 Hydref]] trwy ei [[Crogi, diberfeddu a chwarteru|grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru]]. Mae rhai yn credu mai ef oedd y cyntaf i ddioddef y math yma o ddienyddiad erchyll anyn gosb am deyrnfradwriaeth, a ddaeth yn gyffredin dan [[cyfraith|gyfraith]] Lloegr yn y canrifoedd nesaf. Gosodwyd pen Dafydd ar bolyn yn [[Tŵr Llundain|Nhŵr Llundain]] gerllaw pen ei frawd Llywelyn.
 
==Tynged yr etifeddion==