Defnyddiwr:Blogdroed/Pwll Tywod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 14:
Ganed Llewelyn Kenrick i deulu o ddiwydianwyr Wynn Hall, Rhiwabon a'i dad, John Kenrick, sefydlodd Pwll Glo Wynn Hall ym [[Penycae|Mhenycae]]<ref>{{cite web|url=https://britishlistedbuildings.co.uk/300001620-wynn-hall-penycae#.Xoc3rxP0nOR | title=Wynn Hall: A Grade II* Listed Building in Penycae, Wrexham |publisher=British Listed Buildings}}</ref>. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg [[Rhiwabon]], [[Sir Ddinbych]]. Daeth yn gyfreithiwr yn Rhiwabon, yn glerc i ynadon heddwch Rhiwabon (1896-1933), a bu'n grwner adran ddwyreiniol Sir Ddinbych o 1906 hyd ei farwolaeth. Ym 1909 daeth yn briod â Lillian Mud, merch y Parchedig A. L. Taylor, prifathro Ysgol Ramadeg Rhiwabon<ref>{{cite news |title=Family Notices |first= |last= |newspaper=Llangollen Advertiser |date=26 Tachwedd 1909 |url=https://newspapers.library.wales/view/4246676/4246684/37/}}</ref>. Bu farw ar 29 Mai 1933, a cafodd ei gladdu yn Rhiwabon.
 
Chwaraeodd ei frawd yng nghyfraith, [[Charles Taylor (chwaraewr rygbi)|Charles Taylor]], [[Rygbi'r undeb|rygbi]] dros Gymru gan ennill naw cap rhwng 1884 a 1887. Cafodd ei ladd ar faes y gad yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]<ref>{{cite web |url=https://worldrugbymuseum.blog/2015/01/24/lest-we-forget-charles-gerald-taylor-wales-24011915/ |title=Lest We Forget – Charles Gerald Taylor (Wales) 24/01/1915 |publisher=World Rugby Museum}}</ref><ref>{{Cite book|title = Call Them to Remembrance: The Welsh Rugby Internationals who died in the Great War|last = Prescott|first = Gwyn|publisher = St. David.s Press|year = 2014|isbn = 978-1-902719-37-5|location = |pages = }}</ref>
 
 
==Gyrfa Bêl-droed==