Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Defnyddiwr:Blogdroed/Pwll Tywod"

dim crynodeb golygu
 
==Bywyd==
Ganed Llewelyn Kenrick i deulu o ddiwydianwyr Wynn Hall, Rhiwabon a'i dad, John Kenrick, sefydlodd Pwll Glo Wynn Hall ym [[Penycae|Mhenycae]]<ref>{{cite web|url=https://britishlistedbuildings.co.uk/300001620-wynn-hall-penycae#.Xoc3rxP0nOR | title=Wynn Hall: A Grade II* Listed Building in Penycae, Wrexham |publisher=British Listed Buildings}}</ref>. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg [[Rhiwabon]], [[Sir Ddinbych]]. Daeth yn gyfreithiwr yn Rhiwabon, yn glerc i ynadon heddwch Rhiwabon (1896-1933), a bu'n grwner adran ddwyreiniol Sir Ddinbych o 1906 hyd ei farwolaeth. Ym 1909 daeth yn briod â Lillian MudMaud, merch y Parchedig A. L. Taylor, prifathro Ysgol Ramadeg Rhiwabon<ref>{{cite news |title=Family Notices |first= |last= |newspaper=Llangollen Advertiser |date=26 Tachwedd 1909 |url=https://newspapers.library.wales/view/4246676/4246684/37/}}</ref>. Bu farw ar 29 Mai 1933, a cafodd ei gladdu yn Rhiwabon.
 
Chwaraeodd ei frawd yng nghyfraith, [[Charles Taylor (chwaraewr rygbi)|Charles Taylor]], [[Rygbi'r undeb|rygbi]] dros Gymru gan ennill naw cap rhwng 1884 a 1887. Cafodd Taylor ei ladd ar faes y gad yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]<ref>{{cite web |url=https://worldrugbymuseum.blog/2015/01/24/lest-we-forget-charles-gerald-taylor-wales-24011915/ |title=Lest We Forget – Charles Gerald Taylor (Wales) 24/01/1915 |publisher=World Rugby Museum}}</ref><ref>{{Cite book|title = Call Them to Remembrance: The Welsh Rugby Internationals who died in the Great War|last = Prescott|first = Gwyn|publisher = St. David.s Press|year = 2014|isbn = 978-1-902719-37-5|location = |pages = }}</ref>
 
==Gyrfa Bêl-droed==
Ym 1872 roedd yn allweddol wrth uno tri o glybiau pentref [[Rhiwabon]] sef Plasmadoc, Ruabon Rovers a Ruabon Volunteers er mwyn creu [[C.P.D. Derwyddon Cefn|Y Derwyddon]]<ref>{{cite web|url=https://www.cefndruidsafc.com/our-history |title=Cefn Druids: Our History |publisher=cefndruidsafc.com}}</ref>. Pedair mlynedd yn ddiweddarch, roedd Kenrick yn allweddol wrth sefydlu [[Cymdeithas Bêl-droed Cymru]] er mwyn trefnu gêm rhyngwladol yn erbyn Yr Alban a cafwyd chwe chwaraewr o glwb Y Derwyddon, gan gynnwys Kenrick ei hun, yn chwarae yn y gêm hanesyddol cyntaf dros [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Gymru]]<ref>{{cite web |url=http://welshsoccerarchive.co.uk/international_details.php?id=1 |title=Welsh Football Data Archive: 1876 Scotland v Wales |publisher=Welsh Football Data Archive}}</ref>.
 
===Shropshire Wanderers===
Capteiniodd dîm pêl-droed cenedlaethol cyntaf [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Cymru]] yn 1876 yn [[Glasgow]] gan golli 4 - 0 yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Alban|yr Alban]].
Chwaraeodd Kenrick fel aelod o dîm Shropshire Wanderers gyrhaeddodd rownd gynderfynol [[Cwpan Lloegr|Cwpan FA Lloegr]] ym 1875 cyn colli yn erbyn yr Old Etonians<ref name="whoswho">{{cite book |title=Who's Who of Welsh International Soccer Players |last1=Davies |first1=Gareth |last2=Garland |first2=Ian |year=1991 |publisher=Bridge Books |isbn=1-872424-11-2|pages=119–120 }}</ref>
 
===Cymru===
Roedd yn gapten ar dîm [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Cymru]] yn eu gêm rhyngwladol gyntaf erioed yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Alban|yr Alban]] yn 1876 ac aeth ymlaen i ennill pum cap, yr olaf yn dod ym muddugoliaeth gyntaf y Cymry a hynny yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr|Lloegr]] yn [[Blackburn]] yn 1881<ref name="whoswho" /><ref>{{cite web|url=http://welshfootball.online/results/res1876.html |title=Results 1876 - 1889 |publisher=Welsh Football Online}}</ref>.
 
==Llyfryddiaeth==