Defnyddiwr:Blogdroed/Pwll Tywod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 28:
Roedd yn gapten ar dîm [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Cymru]] yn eu gêm rhyngwladol gyntaf erioed yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Alban|yr Alban]] yn 1876 ac aeth ymlaen i ennill pum cap, yr olaf yn dod ym muddugoliaeth gyntaf y Cymry a hynny yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr|Lloegr]] yn [[Blackburn]] yn 1881<ref name="whoswho" /><ref>{{cite web|url=http://welshfootball.online/results/res1876.html |title=Results 1876 - 1889 |publisher=Welsh Football Online}}</ref>.
 
=====Gweinyddwr Pêl-droed=====
===Cymdeithas Bêl-droed Cymru==
Ym mis Ionawr 1876 gwelodd Kenrick hysbyseb yng nghylchgrawn ''The Field'', yn galw am dîm Cymreig i chwarae gêm bêl-droed yn erbyn Yr Alban neu Iwerddon o dan reolau rygbi, ond roedd Kenrick yn benderfynol o greu tîm yn chwarae rheolau pêl-droed a hysbysebodd am chwaraewyr fyddai â diddordeb chwarae i gysylltu ag ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cambria<ref name="new craze" /><ref name= "Challenge">{{Cite web|url=https://www.wrexham.gov.uk/welsh/heritage/welsh_football_w/index.htm#q1876|title=1876 Sialens Kenrick|work=Cartref Ysbrydol Pêl-droed Cymru|publisher=Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam|accessdate=23 March 2010}}</ref>}}.
 
Galwodd Kenrick gyfarfod ar 26 Ionawr 1876 er mwyn sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cambria a threfnu gemau prawf ar gyfer dewis tîm i herio'r Alban ond erbyn yr ail gyfarfod ar 2 Chwefror 1876 yng ngwesty'r Wynnstay Arms, [[Wrecsam]] roedd wedi newid yr enw i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r cyfarfod yma sydd yn cael ei ystyried gan y Gymdeithas fel y cyfarfod lle'i ffurfiwyd.<ref>{{cite book}}</ref>
 
==Llyfryddiaeth==