Defnyddiwr:Blogdroed/Pwll Tywod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 29:
 
==Gweinyddwr Pêl-droed==
===Cymdeithas Bêl-droed Cymru===
Ym mis Ionawr 1876 gwelodd Kenrick hysbyseb yng nghylchgrawn ''The Field'', yn galw am dîm Cymreig i chwarae gêm bêl-droed yn erbyn Yr Alban neu Iwerddon o dan reolau rygbi, ond roedd Kenrick yn benderfynol o greu tîm yn chwarae rheolau pêl-droed a hysbysebodd am chwaraewyr fyddai â diddordeb chwarae i gysylltu ag ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cambria<ref name="new craze" /><ref name= "Challenge">{{Cite web|url=https://www.wrexham.gov.uk/welsh/heritage/welsh_football_w/index.htm#q1876|title=1876 Sialens Kenrick|work=Cartref Ysbrydol Pêl-droed Cymru|publisher=Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam}}</ref>.
 
Galwodd Kenrick gyfarfod ar 26 Ionawr 1876 er mwyn sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cambria a threfnu gemau prawf ar gyfer dewis tîm i herio'r Alban ond erbyn yr ail gyfarfod ar 2 Chwefror 1876 yng ngwesty'r Wynnstay Arms, [[Wrecsam]] roedd wedi newid yr enw i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r cyfarfod yma sydd yn cael ei ystyried gan y Gymdeithas fel y cyfarfod lle'i ffurfiwyd.<ref>{{cite book |last=Stead |first=Phil |title=Red Dragons: The story of Welsh Football |publisher=Y Lolfa |year=2012 |isbn=9781847716187 |pages=12 }}</ref>.
 
Cafwyd cyfarfod pellach yn y Wynnstay Arms, [[Rhiwabon]] ym mis Mai 1876 er mwyn ffurioli'r Gymdeithas a sefydlu'r pwyllgor cyntaf gyda Kenrick yn cael ei ethol yn ysgrifennydd a'r Aelod Seneddol lleol, [[Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig|Syr Williams Watkins Wynn]] yn cael ei benodi'n Lywydd<ref name="new craze" />.
 
===Cwpan Cymru===
Yn dilyn ei lwyddiant gyda Shropshire Wanderers yn cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr ym 1875<ref name="whoswho" />, cynnigiodd Kenrick fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn sefydlu cystadleuaeth tebyg ar gyfer clybiau Cymru<ref name="new craze" />. Cafwyd 19 o glybiau yn y gystadleuaeth gyntaf ym 1877-78 gyda [[C.P.D. Wrecsam|Wrecsam]] yn trechu Kenrick a'r Derwyddon 1-0 yn y rownd derfynol ar 30 Mawrth 1878<ref>{{cite web|url=https://www.welshsoccerarchive.co.uk/welshcup_final_detail.php?id=1 |title=WELSH CUP FINAL 1877/78 |publisher=Welsh Football Data Archive}}</ref>.
 
==Llyfryddiaeth==