Defnyddiwr:Blogdroed/Pwll Tywod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Gwacawyd y dudalen a gosod y canlynol yn ei lle: '==Ar Faes y Gâd== Robert Herbert Mills-Roberts | Morgan Maddox Morgan-Owen | Albert Westhead Pryce-Jones | William Ernest Pryce-...'
Tagiau: Disodlwyd
 
Llinell 2:
 
[[Robert Herbert Mills-Roberts]] | [[Morgan Maddox Morgan-Owen]] | [[Albert Westhead Pryce-Jones]] | [[William Ernest Pryce-Jones]] | [[Leigh Richmond Roose]] | [[Fred Keenor]] | [[George Latham]] | [[Harry Beadles]] |[[Arnold Dargie]]
 
 
 
 
==Llewelyn Kenrick==
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
 
Cyfreithiwr a phêl-droediwr oedd '''Samuel Llewelyn Kenrick''' ([[1847]] – [[29 Mai]] [[1933]]). Roedd yn un o sefydlwyr [[Cymdeithas Bêl-droed Cymru]] ac hefyd yn gyfrifol am drefnu gêm bêl-droed rhyngwladol cyntaf [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Cymru]] a hynny yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Alban|Yr Alban]] yn 1876.
 
==Bywyd==
Ganed Llewelyn Kenrick i deulu o ddiwydianwyr Wynn Hall, Rhiwabon a'i dad, John Kenrick, sefydlodd Pwll Glo Wynn Hall ym [[Penycae|Mhenycae]]<ref>{{cite web|url=https://britishlistedbuildings.co.uk/300001620-wynn-hall-penycae#.Xoc3rxP0nOR | title=Wynn Hall: A Grade II* Listed Building in Penycae, Wrexham |publisher=British Listed Buildings}}</ref>. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg [[Rhiwabon]], [[Sir Ddinbych]]. Daeth yn gyfreithiwr yn Rhiwabon, yn glerc i ynadon heddwch Rhiwabon (1896-1933), a bu'n grwner adran ddwyreiniol Sir Ddinbych o 1906 hyd ei farwolaeth. Ym 1909 daeth yn briod â Lillian Maud, merch y Parchedig A. L. Taylor, prifathro Ysgol Ramadeg Rhiwabon<ref>{{cite news |title=Family Notices |first= |last= |newspaper=Llangollen Advertiser |date=26 Tachwedd 1909 |url=https://newspapers.library.wales/view/4246676/4246684/37/}}</ref>. Bu farw ar 29 Mai 1933, a cafodd ei gladdu yn Rhiwabon.
 
Chwaraeodd ei frawd yng nghyfraith, [[Charles Taylor (chwaraewr rygbi)|Charles Taylor]], [[Rygbi'r undeb|rygbi]] dros Gymru gan ennill naw cap rhwng 1884 a 1887. Cafodd Taylor ei ladd ar faes y gad yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]<ref>{{cite web |url=https://worldrugbymuseum.blog/2015/01/24/lest-we-forget-charles-gerald-taylor-wales-24011915/ |title=Lest We Forget – Charles Gerald Taylor (Wales) 24/01/1915 |publisher=World Rugby Museum}}</ref><ref>{{Cite book|title = Call Them to Remembrance: The Welsh Rugby Internationals who died in the Great War|last = Prescott|first = Gwyn|publisher = St. David.s Press|year = 2014|isbn = 978-1-902719-37-5|location = |pages = }}</ref>
 
 
==Chwaraewr Pêl-droed==
===Shropshire Wanderers===
Roedd Kenrick yn aelod o dîm Shropshire Wanderers chwaraeodd yn erbyn Plasmadoc ym 1872 ac o ganlyniad cafodd ei ddylanwadu i geisio sefydlu tîm pêl-droed o safon yn ei dref enedigol, ac am gyfnod roedd yn chwarae i dîm y Derwyddon ac i Shropshire Wanderers<ref name="new craze">{{cite news |title=‘The New Craze’: Football and Society in North-East Wales, c.1870-90 |first1=Martin |last1=Johnes |first2=Ian |last2=Garland |newspaper=Welsh History Review |date=Rhagfyr 2004 |url=https://www.academia.edu/199114/_The_New_Craze_Football_and_Society_in_North-East_Wales_c.1870-90}}</ref>.
Roedd yn aelod o dîm Shropshire Wanderers gyrhaeddodd rownd gynderfynol [[Cwpan Lloegr|Cwpan FA Lloegr]] ym 1875 cyn colli yn erbyn yr Old Etonians<ref name="whoswho">{{cite book |title=Who's Who of Welsh International Soccer Players |last1=Davies |first1=Gareth |last2=Garland |first2=Ian |year=1991 |publisher=Bridge Books |isbn=1-872424-11-2|pages=119–120 }}</ref>
 
===Y Derwyddon===
Ym 1872 roedd yn allweddol wrth uno tri o glybiau pentref [[Rhiwabon]] sef Plasmadoc, Ruabon Rovers a Ruabon Volunteers er mwyn creu [[C.P.D. Derwyddon Cefn|Y Derwyddon]]<ref>{{cite web|url=https://www.cefndruidsafc.com/our-history |title=Cefn Druids: Our History |publisher=cefndruidsafc.com}}</ref>. Pedair mlynedd yn ddiweddarch, roedd Kenrick yn allweddol wrth sefydlu [[Cymdeithas Bêl-droed Cymru]] er mwyn trefnu gêm rhyngwladol yn erbyn Yr Alban a cafwyd chwe chwaraewr o glwb Y Derwyddon, gan gynnwys Kenrick ei hun, yn chwarae yn y gêm hanesyddol cyntaf dros [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Gymru]]<ref>{{cite web |url=http://welshsoccerarchive.co.uk/international_details.php?id=1 |title=Welsh Football Data Archive: 1876 Scotland v Wales |publisher=Welsh Football Data Archive}}</ref>.
 
===Cymru===
Roedd yn gapten ar dîm [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Cymru]] yn eu gêm rhyngwladol gyntaf erioed yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Alban|yr Alban]] yn 1876 ac aeth ymlaen i ennill pum cap, yr olaf yn dod ym muddugoliaeth gyntaf y Cymry a hynny yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr|Lloegr]] yn [[Blackburn]] yn 1881<ref name="whoswho" /><ref>{{cite web|url=http://welshfootball.online/results/res1876.html |title=Results 1876 - 1889 |publisher=Welsh Football Online}}</ref>.
 
==Gweinyddwr Pêl-droed==
===Cymdeithas Bêl-droed Cymru===
Ym mis Ionawr 1876 gwelodd Kenrick hysbyseb yng nghylchgrawn ''The Field'', yn galw am dîm Cymreig i chwarae gêm bêl-droed yn erbyn Yr Alban neu Iwerddon o dan reolau rygbi, ond roedd Kenrick yn benderfynol o greu tîm yn chwarae rheolau pêl-droed a hysbysebodd am chwaraewyr fyddai â diddordeb chwarae i gysylltu ag ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cambria<ref name="new craze" /><ref name= "Challenge">{{Cite web|url=https://www.wrexham.gov.uk/welsh/heritage/welsh_football_w/index.htm#q1876|title=1876 Sialens Kenrick|work=Cartref Ysbrydol Pêl-droed Cymru|publisher=Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam}}</ref>.
 
Galwodd Kenrick gyfarfod ar 26 Ionawr 1876 er mwyn sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cambria a threfnu gemau prawf ar gyfer dewis tîm i herio'r Alban ond erbyn yr ail gyfarfod ar 2 Chwefror 1876 yng ngwesty'r Wynnstay Arms, [[Wrecsam]] roedd wedi newid yr enw i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r cyfarfod yma sydd yn cael ei ystyried gan y Gymdeithas fel y cyfarfod lle'i ffurfiwyd<ref>{{cite book |last=Stead |first=Phil |title=Red Dragons: The story of Welsh Football |publisher=Y Lolfa |year=2012 |isbn=9781847716187 |pages=12 }}</ref>.
 
Cafwyd cyfarfod pellach yn y Wynnstay Arms, [[Rhiwabon]] ym mis Mai 1876 er mwyn ffurioli'r Gymdeithas a sefydlu'r pwyllgor cyntaf gyda Kenrick yn cael ei ethol yn ysgrifennydd a'r Aelod Seneddol lleol, [[Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig|Syr Williams Watkins Wynn]] yn cael ei benodi'n Lywydd<ref name="new craze" />.
 
===Cwpan Cymru===
Yn dilyn ei lwyddiant gyda Shropshire Wanderers yn cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr ym 1875<ref name="whoswho" />, cynnigiodd Kenrick fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn sefydlu cystadleuaeth tebyg ar gyfer clybiau Cymru<ref name="new craze" />. Cafwyd 19 o glybiau yn y gystadleuaeth gyntaf ym 1877-78 gyda [[C.P.D. Wrecsam|Wrecsam]] yn trechu Kenrick a'r Derwyddon 1-0 yn y rownd derfynol ar 30 Mawrth 1878<ref>{{cite book |title=History of the Welsh Cup, 1877-1993 |last=Garland |first=Ian |year=1993 |publisher=Abe Books |isbn=9781872424378}}</ref><ref>{{cite web|url=https://www.welshsoccerarchive.co.uk/welshcup_final_detail.php?id=1 |title=WELSH CUP FINAL 1877/78 |publisher=Welsh Football Data Archive}}</ref>.
 
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
 
{{eginyn Cymry}}
 
{{DEFAULTSORT:Kenrick, Llewelyn}}
[[Categori:Genedigaethau 1847]]
[[Categori:Marwolaethau 1933]]
[[Categori:Pêl-droedwyr Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Sir Ddinbych]]
[[Categori:Pobl addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon]]