Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Harry Beadles"

Lleihawyd o 27 beit ,  blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
(→‎Gyrfa bêl-droed: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB)
}}
 
Cyn [[pêl-droed|bêl-droediwr]] [[Cymreig]] oedd '''George Harold 'Harry' Beadles''' ([[28 Medi]] [[1897]] - [[29 Awst]] [[1958]]). Llwyddodd i ennill 2 gap dros [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Gymru]] ym 1925<ref name="Whos Who">{{cite book| author=Gareth M. Davies ac Ian Garland | title=Who's Who of Welsh International Soccer Players | year=1991| |page=16 |isbn=1-872424-11-2}}</ref> ac roedd yn aelod o dîm [[C.P.D. Dinas Caerdydd|Dinas Caerdydd]] chwaraeodd yn rownd derfynol [[Cwpan FA Lloegr]] yn yr un flwyddyn<ref name="FACup1925">{{cite web|url=http://www.fa-cupfinals.co.uk/1925.htm |title=1925 FA Cup Final |publishedwork=fa-cupfinals.co.uk}}</ref>.
 
==Bywyd cynnar==
Ar ôl y Rhyfel Mawr dychwelodd Beadles i Gymru a chwaraeodd i'r [[C.P.D. Y Drenewydd|Drenewydd]] cyn symud i [[Glannau Merswy|Lannau Merswy]] i chwarae dros dîm amatur Graysons F.C.<ref name="lerpwl">{{cite web |url=http://www.liverpoolfc.com/history/past-players/harry-beadles |title=Harry Beadles |work=LiverpoolFC}}</ref> ac ym 1921 arwyddodd i [[Liverpool F.C.|Lerpwl]]. Er gwneud cryn argraff yn ei dymor cyntaf yn Anfield, lle rhwydodd chwe gôl mewn 12 gêm a dod yn aelod o'r garfan lwyddodd i ennill [[Y Gynghrair Bêl-droed|Cynghrair Lloegr]], methodd a sicrhau ei le yn y tîm y tymor canlynol, a symudodd i [[C.P.D. Dinas Caerdydd|Gaerdydd]] lle roedd ei gyn gyd filwr, George Latham, bellach yn hyfforddwr<ref name="Whos Who" /><ref name="lerpwl" />.
 
Ym 1924-25 llwyddodd Beadles i chwarae 34 o gemau a sgorio14 o goliau dros Gaerdydd wrth i'r Adar Gleision orffen yn 11eg yn [[Y Gynghrair Bêl-droed|yr Adran Gyntaf]]<ref>{{cite web |url=http://www.statto.com/football/teams/cardiff-city/1924-1925 |title=Cardiff City 1924-25 |published=Statto.com |work=Statto.com}}</ref> a chyrraedd rownd derfynol [[Cwpan FA Lloegr]] yn erbyn [[Sheffield United F.C.|Sheffield United]].<ref name="FACup1925" /> Colli oedd hanes Caerdydd ac erbyn mis Tachwedd 1925 roedd Beadles wedi ei werthu i [[Sheffield Wednesday F.C.|Sheffield Wednesday]]. Ni chwaraeodd yr un gêm i Wednesday cyn symud i [[Southport F.C.|Southport]] yn [[Y Gynghrair Bêl-droed|Nhrydedd Adran (Y Gogledd)]] naw mis yn ddiweddarach.
 
Roedd Beadles yn brif sgoriwr ar Southport am dri tymor yn olynnol rhwng 1926 a 1929 a parhaodd ei record o rwydo mewn chwe gêm yn olynnol hyd 1957<ref name="Whos Who" />. Symudodd i chwarae a rheoli [[Dundalk F.C.|Dundalk]] yng [[Cynghrair Iwerddon|Nghynghrair Iwerddon]] am dymor ym 1929-30 cyn ymddeol o bêl-droed.