Siroedd hanesyddol Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''siroedd hanesyddol Lloegr''' yn ardaloedd gweinyddol a sefydlwyd gan y Normaniaid. Roedd siroedd yr Oesoedd Canol yn fodd i orfodi pŵer llyw...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:56, 5 Ebrill 2020

Roedd siroedd hanesyddol Lloegr yn ardaloedd gweinyddol a sefydlwyd gan y Normaniaid. Roedd siroedd yr Oesoedd Canol yn fodd i orfodi pŵer llywodraeth ganolog, gan alluogi brenhinoedd i reoli eu hardaloedd lleol trwy eu cynrychiolwyr dewisol – siryfion yn wreiddiol ac yn ddiweddarach yr Arglwydd Raglawiaid – yn ogystal ag ynadon heddwch. Defnyddiwyd siroedd i ddechrau ar gyfer gweinyddu cyfiawnder, casglu trethi a threfnu'r fyddin, ac yn ddiweddarach ar gyfer llywodraeth leol ac ethol cynrychiolaeth seneddol.

Mewn canrifoedd diweddarach, yn ogystal â bod â swyddogaeth weinyddol, chwaraeodd y siroedd ran allweddol wrth ddiffinio diwylliant a hunaniaeth eu hardaloedd. Parhaodd y rôl ddiwylliannol hon hyd yn oed ar ôl iddynt golli eu harwyddocâd gwleidyddol fel canlyiad i greu siroedd gweinyddol ym 1889, ac ailadeiladu llywodraeth leol yn sylweddol ym 1974.

Mae enwau a lleoliadau llawer o'r siroedd hanesyddol yn byw yn swyddi seremonïol Lloegr heddiw.

Rhestr o'r swyddi

 

Dim ar y map: Dinas Llundain


  Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.