Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 162:
 
::I ti gael gwybod mae rhagor o drafod wedi digwydd y penwythnos hwn ar [http://meta.wikimedia.org/wiki/Language_committee/May_2011_meeting bolisi cau wicis] lle nad oes fawr yn digwydd arnynt. Y mae'n bosib y caiff y 4 wici bach Cymraeg eu cynnig i gael eu cau rhywdro, gyda'r wicis distadl eraill; ond mae'n debyg mai eu rhewi y caent, yn hytrach na'u dileu'n llwyr. Byddai modd eu hailagor wedyn petai digon o gyfrannwyr yn cynnig eu cynnal. Felly ni fyddai'n gwaith yn mynd yn ofer. [[Defnyddiwr:Lloffiwr|Lloffiwr]] 14:30, 15 Mai 2011 (UTC)
 
:::Dw i'n cytuno. Byddai'n drueni petai'r wicis llai yn cael eu cau, yn enwedig am fod gwybodaeth defnyddiol ar gael ar bob un ohonynt. Efallai mai diffyg ymwybyddiaeth ohonynt sy'n gyfrifol am eu diffyg defnydd? Hefyd, dw i'n meddwl yn aml fod angen cic lan tin arno ni fel Cymry - ry'n ni'n llawer rhy barod i gwyno am ddiffyg adnoddau yn y Gymraeg ond eto i gyd yn amharod i wneud unrhyw beth amdano. Ta waeth... Nawr dy fod wedi tynnu fy sylw at Wiciquote unwaith eto, fe wnaf i fwy o ymdrech i gyfrannu fan honno hefyd ;-) Dw i'n cytuno hefyd ynglyn â chanolbwyntio ar ddyfyniadau Cymraeg neu mewn ieithoedd eraill heblaw am Saesneg. Mae'n siwr mai dyna'r ffordd orau ymlaen. [[Defnyddiwr:Pwyll|Pwyll]] 17:16, 15 Mai 2011 (UTC)